EU e-Privacy

Adran 6: Rhyd Ddu i Feddgelert

6 image1 23

6. Rhyd Ddu i Feddgelert

Pellter: 8.4km, 5.2milltir     Esgyniad: 110m, 350tr     Amser: 1.5 - 2.5awr

Mae’r rhan hon yn dilyn Lôn Gwyrfai'r holl ffordd - llwybr a sefydlwyd yn ddiweddar sy’n hawdd a hamddenol ac wedi ei arwyddo’n dda. Ceir llwybrau coedwig a golygfeydd o fynyddoedd uchaf Eryri.

Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG..

Dolen i fap (JPG)

Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML

Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (JPG)

Trosolwg o'r adran gan Vicky Anne Jones (yn Saesneg)

https://www.youtube.com/watch?v=UTIa7X2Cob0&feature=youtu.be&fbclid=IwAR26V4ryc1wAq3qWYRONGzL_Hr5sVQToArYo9Pt1eWCcp_V1oGr5Bz0sLq0

Gan adael maes parcio gorsaf Rhyd Ddu, croeswch y ffordd, ewch drwy’r giât addurnedig a dilynwch yr arwyddion i Feddgelert. Croeswch yr heol a adnewyddwyd a cherddwch heibio Llyn y Gadair at Goedwig Beddgelert.  Dilynwch y llwybr a’r trac sydd wedi ‘u harwyddo’n dda sy’n croesi Rheilffordd Ucheldir Eryri sawl gwaith wrth fynd igam ogam i lawr yr allt serth i ddyffryn Afon Glaslyn.

Efallai y clywch hwtian trên Rheilffordd Ucheldir Eryri ar ochr arall y dyffryn, ac os bydd y tywydd yn caniatáu, mae’n bosibl gweld copa’r Wyddfa, a cholofn fechan o fwg yn chwythu o injan stem Rheilffordd yr Wyddfa .

Bydd gennych ddigon o ddewis o fwyd, diod a llety ym mhentref Beddgelert.

Gwybodaeth am y llefydd ar hyd rhan hon y daith.  Nodwch nad yw Grŵp Gweithred Cymuned Cwm yn gyfrifol am wefannau mudiadau eraill.

Llwybr Lôn Gwyrfai
Dyma lwybr hamdden aml-ddefnydd 4½ milltir a grëwyd yn arbennig ar gyfer cerddwyr, beicwyr a phobl sy’n marchogaeth ceffylau. Mae’r llwybr yn arwain drwy amrywiaeth o dirweddau a gallwch fwynhau golygfeydd gwych o Ddyffryn Gwyrfai a’r Wyddfa a’i chriw.
Mae’r llwybr o Ryd Ddu i ochr orllewinol Llyn y Gadair yn wastad a llydan felly mae’n addas ar gyfer cerbydau tebyg i sgwteri cynorthwyol tir-garw (Tramper) neu gadeiriau olwyn pŵeredig. Fodd bynnag, mae rhannau eraill yn serth ac mae angen croesi pont droed neu ryd yng Nghoedwig Beddgelert.

http://www.eryri-npa.gov.uk/visiting/walking/leisure-walks/lon-gwyrfai

image1 23

Beddgelert
Mae safle bedd mewn cae yn rhan ddeheuol y pentref
Dyma’r arysgrifen ar garreg fedd Gelert:

"Yn y 13eg, roedd gan Llywelyn, tywysog Gogledd Cymru, blas ym Meddgelert. Un diwrnod aeth y tywysog i hela heb Gelert ei gi ffyddlon. Pan ddychwelodd Llywelyn, neidiodd y ci’n waed i gyd i groesawu ei feistr.
Dychrynodd y tywysog a brysiodd i chwilio am ei fab a chafodd crud y baban yn wag, y dillad gwely ar lawr yn waed i gyd. Yn ei ddychryn trywanodd y tad y ci a’i gleddyf gan feddwl fod y ci wedi lladd ei aer. Atebwyd gwaedd farwol y ci gan gri egwan plentyn. Chwiliodd Llywelyn a chafodd ei fab yn ddianaf, ond yn ei ymyl gorweddai corff blaidd anferth a laddwyd gan Gelert. Dywedir i’r tywysog a’i galon yn llawn tristwch edifeiriol beidio gwenu byth wedyn. Claddodd Gelert yma ag am hynny gelwir y fan yn Bedd Gelert”

http://www.beddgelerttourism.com/

Ni cheir tystiolaeth o gwbl am fodolaeth Gelert er y gelwir twmpath yn y pentref yn ‘Fedd’ Gelert sy’n gyrchfan i dwristiaid. Yn hytrach, fe’i priodolir i awydd perchennog Gwesty’r Afr ym Meddgelert, David Pritchard i gysylltu’r chwedl â’r pentref er mwyn annog twristiaeth. Ceir chwedlau tebyg yn Ewrop ac Asia.[3]
Gwibfaen Beddgelert
Yn ystod oriau mân bore 21 Medi 1949, tarodd gwibfaen yn pwyso tua 5 tunnell westy’r Prince Llewelyn gan achosi difrod i’r to ac i ystafell wely islaw. Wedi hynny, gwerthodd y perchennog, Mr Tillotson hanner y gwibfaen i Amgueddfa Prydain. Roedd cynrychiolydd ar ran Prifysgol Durham wedi rhoi hysbyseb yn y papurau lleol yn holi am wybodaeth am y gwibfaen a chynigiodd wobr yn rhodd am gael ei weddillion.

https://en.wikipedia.org/wiki/Beddgelert#The_Beddgelert_Meteorite#

Coedwig Beddgelert

image2 25
Mae’r goedwig yn gyrchfan boblogaidd i feicwyr mynydd, ac mae rhan fwyaf y llwybrau’n cynnwys rhannau o hen Reilffordd Ucheldir Cymru. Gellir llogi beiciau mynydd, tandemau, seddi plant a beiciau trelar am brisiau rhesymol er mwyn archwilio’r ardal o siop Beddgelert Bikes a Bike Barn, dwy filltir o Feddgelert.

Cwmni Camping in the Forest sy’n berchen safle gwersylla’r goedwig, mewn cydweithrediad â chymdeithas y Camping and Caravanning Club.

Yr Wyddfa
Yr Wyddfa yw mynydd uchaf Cymru ac mae’n cyrraedd uchder o 1,085m (3,560td). Dyma bwynt mwyaf gogleddol ynysoedd Prydain i’r de o ucheldir yr Alban a dywedir mai’r Wyddfa yw “mynydd prysuraf Prydain, o bosibl". Dynodwyd yr Wyddfa’n Warchodfa Natur Genedlaethol a cheir planhigion ac anifeiliaid prin yno.
Mae wynebau clogwyni yr Wyddfa, gan gynnwys Clogwyn Du'r Arddu, yn bwysig o ran dringo creigiau, a bu i Syr Edmund Hillary a’r tîm ymarfer yma cyn dringo Everest ym 1953.
Mae sawl llwybr poblogaidd a rheilffordd yn arwain i’r copa. Chwalwyd  hen gaffi’r 1930au ac yn 2009 adeiladwyd caffi a Chanolfan Ymwelwyr Hafod Eryri.
Tardda’r enw Saesneg’ Snowdon’ o’r Eingl-Sacsoneg. Ystyr 'Yr Wyddfa' yw claddfa neu feddrod. Yn ôl y traddodiad, cyfeiria at y garnedd ar gopa’r Wyddfa sef man claddu Rhita Gawr wedi iddo gael ei drechu gan y Brenin Arthur, yn ôl y traddodiad.

image3 28

http://www.visitsnowdonia.info/

Rheilffordd yr Wyddfa
Syr Richard Moon, Cadeirydd cwmni’r London & North Western Railway oedd y cyntaf i gynnig adeiladu rheilffordd i fyny’r Wyddfa o Lanberis, ar ôl cwblhau lein gangen o Fangor i Lanberis ym 1869. Cafwyd gwrthwynebiad cryf gan y tirfeddiannwr George William Duff Assheton-Smith i Filiau Seneddol cychwynnol. Fodd bynnag, roedd cynlluniau  1877 i adeiladu rheilffordd o Borthmadog i gopa’r Wyddfa a rheilffordd lled cul i Ryd Ddu ym 1881 yn golygu colli busnes twristiaeth sylweddol yn Llanberis.

Parodd hyn i Assheton-Smith newid ei feddwl a gwireddwyd dymuniad Syr Richard. Sefydlwyd y Snowdon Mountain Tramroad and Hotels Company Ltd., a phlannwyd egin creu un o gampweithiau peirianyddol mwyaf y byd ym 1894.

Defnyddiodd 150 o ddynion geibiau, rhofiau, dynameit a cherrig o hafn 100 metr i adeiladu dwy draphont, sawl pont a gosod ymron i 8 km o drac ar oleddf un-mewn-saith i gopa’r mynydd. Cymerodd y gwaith 14 mis.
Defnyddia’r rheilffordd system rac a phiniwn dibynadwy a ddyfeisiwyd yn y Swistir dan batent y peiriannydd Dr Roman Abt. Fe’i defnyddiwyd hefyd ar Reilffordd Manitou & Pike’s Peak yn America.
Nid oedd cystadleuwyr eraill tebygol ac mae system Abt yn parhau i weithio heddiw. Felly, beth am brynu’r locomotifau o’r un man? O’r injanau stêm gwreiddiol o’r Swistir, mae pedair yn parhau i bwffian i fyny ac i lawr yr Wyddfa heddiw. Ers i Enid, locomotif 2 gychwyn gwasanaethu ar y lein ym 1896, cyfrifwyd iddo deithio pellter o 3,075,200 km, sy’n gyfystyr â phedair taith i’r lleuad ac yn ôl.

image4 31

www.snowdonrailway.co.uk/history-of-snowdon-mountain-railway

 

© 2017-18 Llwybr Llechi Eryri - Snowdonia Slate Trail. Cedwir pob hawl. Cynlluniwyd gan Creativity Jones.

Search

Iaith • Language

Legal