EU e-Privacy

Adran 5: Nantlle i Ryd Ddu

5 image1 23

5. Nantlle i Ryd Ddu

Pellter: 8.2km, 5.1milltir     Esgyniad: 260m, 850tr     Amser: 2 - 3awr

Mae Dyffryn Nantlle yn lle prydferth, didramwy, gyda mawredd Mynydd Mawr ar y naill ochr a chlogwyni uchel Crib Nantlle ar y llall. Cewch lwybr esmwyth ar hyd gwaelod y dyffryn cyn esgyn, gydag un man corsiog iawn, i’r goedwig a disgyn i Ryd Ddu lle ceir tafarn a chaffi.

Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.

Dolen i fap (JPG)

Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML

Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (JPG)

Trosolwg o'r adran gan Vicky Anne Jones (yn Saesneg)

 (hefyd yn cynnwys Llanberis i Nantlle)

 https://www.youtube.com/watch?v=tMCraXFWowk&t=3s&fbclid=IwAR2hs-h7Mvw1uAKl0FjdHD_aeA0sLB4n0HHxR1UXmkXYEytkv4t3MNQgPNo

Wedi i chi adael y pentref a cherdded ychydig ar hyd y ffordd fawr at Lyn Nantlle Uchaf, cerddwch ar hyd trac fferm da am rai milltiroedd i faes gwersylla Tal y Mignedd.  Yma, mae’r llwybr yn ymuno â’r ffordd am bellter, yn arwain drwy annedd Drws y Coed.  Edrychwch am y garreg goffa sy’n coffau capel a chwalwyd gan graig a ddisgynnodd.

Gan adael fferm Drws y Coed Isaf, gadewch y ffordd a dilynwch yr arwyddbyst heibio’r argae segur i’r goedwig. Yna, mae gennych daith fer, serth i gychwyn sy’n edrych dros Lyn y Dywarchen sy’n arwain drwy’r goedwig i Ryd Ddu gyda’i ddewis o lety a bwyd a diod, a Rheilffordd Ucheldir Eryri.

Gwybodaeth am y llefydd ar hyd rhan hon y daith.  Nodwch nad yw Grŵp Gweithred Cymuned Cwm yn gyfrifol am wefannau mudiadau eraill.

Llyn y Dywarchen
Flynyddoedd lawer yn ôl roedd tywarchen anferth, debyg i ynys symudol yn arnofio ar Lyn y Dywarchen. Ym 1188, dywedodd Gerallt Gymro fod gan y llyn ‘ynys yn arnofio yn ei ganol oedd yn cael ei yrru o un pen i’r llyn i’r llall gan rym y gwynt’. Bryd hynny roedd ei eglurhad yn berffaith resymol. ‘Rhan o’r lan sy’n clymu’n naturiol gan wreiddiau helyg a llwyni eraill efallai wedi eu torri ymaith a chael eu cynhyrfu gan y gwynt yn barhaus...ni all glymu’n gadarn gyda’r lan.’

Nofiodd y seryddwr a’r gwyddonydd Edmund Halley at yr ynys ym 1698 er mwyn gwirio ei bod yn arnofio.

Ym 1784, honnodd Thomas Pennant iddo weld yr ynys a chadarnhaodd ‘os digwydda i eidion grwydro arni y byddai yn rhaid aros arni nes y deuai i gyffyrddiad â glan arall, neu nofio am y lan.’
Dywed un chwedl i dad fynd a’i ferch ar yr ynys i’w rhwystro rhag priodi ei chariad a ddeuai o gefndir dosbarth gweithiol. Bu iddi farw o dor calon ond pe chwythid yr ynys i gyffwrdd y lan, gellid clywed ysbrydion y cariadon yn cusanu.
Nid oes tywarchen arni bellach.

image1 23

http://www.mysteriousbritain.co.uk/wales/gwynedd/other-mysteries/llyn-y-dywarchen.html

Rheilffordd Ucheldir Cymru

Sefydlwyd Rheilffordd Ucheldir Cymru ym 1922 ar ôl uno Cwmni Rheilffordd lled Cul Gogledd Cymru (NWNGR) a Chwmni Rheilffordd Porthmadog, Beddgelert a De Eryri (PBSSR, olynydd i Gwmni Tramffordd Croesor, Porthmadog a Beddgelert ) â’i gilydd.

Yn wreiddiol roedd Cwmni Rheilffyrdd lled Cul Gogledd Cymru ond wedi adeiladu lein o gyffordd gyda rheilffordd traciau lled safonol y London & North Western yn Ninas cyn belled â De Eryri (Rhyd Ddu) gyda changen i wasanaethu chwareli uwchben Bryngwyn.
Fe agorwyd y ddwy lein mewn dau gam, ym 1877 a 1881. Yna, aeth lein y Bryngwyn i ddwylo’r gweinyddwyr a lein De Eryri ym 1916 i’w dilyn. Fe gaewyd lein y Bryngwyn i deithwyr ym 1913 ond cludwyd nwyddau arni tan 1922. Yn ddiweddarach, ffurfiodd leiniau Cwmni Rheilffyrdd lled Cul Gogledd Cymru, y NWNGR ran ogleddol Rheilffordd yr Ucheldir.
Ym 1902 cymerodd y PBSSR fusnes  Cwmni Rheilffordd Tram Porthmadog, Croesor a Beddgelert drosodd gyda’r nod o’i ymestyn i chwarel lechi De Eryri ym Mwlch Aberglaslyn, Nant Gwynant, ond ni chwblhawyd y lein. Collodd y PBSSR ei phwerau cyfreithiol ym 1913 a throsglwyddwyd eu gwaith i gwmni NWNGR ym 1914.
Erbyn 1921, roedd y NWNGR, y PBSSR, Rheilffordd yr Wyddfa a Rheilffordd Ffestiniog dan gydberchnogaeth ac yn cael eu rheoli gan gwmni’r North Wales Power & Traction Company Ltd.
Ym 1922 fe wnaed gorchymyn i sefydlu Cwmni Rheilffordd Ucheldir Cymru (Welsh Highland Light Railway Company).
Ni fu’n llwyddiant. Aeth y perchnogion ati i agor y caffi bwffe cyntaf ar lein rheilffordd gul a pheintio’u cerbydau mewn lliwiau llachar er mwyn denu ymwelwyr. Ond bu’r fenter hon yn ofer a rhedodd y trenau olaf i deithwyr ar 5 Medi 1936.
Adferwyd y rheilffordd yn ystod diwedd y 1990au / dechrau’r 2000au ac mae’n cynnwys estyniad i Gaernarfon.

http://www.festrail.co.uk/

http://colonelstephenssociety.co.uk/

image2 26

© 2017-18 Llwybr Llechi Eryri - Snowdonia Slate Trail. Cedwir pob hawl. Cynlluniwyd gan Creativity Jones.

Search

Iaith • Language

Legal