EU e-Privacy

Adran 4: Waunfawr i Nantlle

4 image1 23

4. Waunfawr i Nantlle

Pellter: 9.5km, 5.9 milltir     Esgyniad: 270m, 900tr    Amser: 3 - 4awr

Am y rhan fwyaf o`r daith, mae Llwybr Llechi Eryri’n dilyn llwybr Taith y Pererin Gogledd Cymru. Gan adael Waunfawr ar hyd lôn ger gorsaf Rheilffordd Ucheldir Eryri, mae’r llwybr yn dilyn lôn wledig cyn fforchio i fyny’r llechwedd coediog serth. Maes o law, ceir gweundir a gwelir golygfeydd o Mynydd Mawr i’r chwith a Chrib Nantlle ddanheddog  o’ch blaen. Yn fuan, cyrhaeddir gweithfeydd llechi helaeth Dyffryn Nantlle ac mae’r llwybr yn mynd heibio i domennydd uchel a cheudyllau chwarel anferth cyn cyrraedd pentref Nantlle.

Sylwer: Mae gwall ar bwynt bwled rhif 1 ar dudalen 40 yn y canllaw. Ar y pen, trowch i`r dde a wedyn i`r chwith i fynd i fyny........

Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.

Dolen i fap (JPG)

Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML

Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (JPG)

Dilynwch y brif ffordd A4085 Rufeinig drwy Waunfawr cyn belled â gorsaf Rheilffordd Ucheldir Eryri. Yma, rydych yn dilyn y lon gul ag arwydd i bentref Rhosgadfan.  Gan ddilyn Llwybr Taith y Pererinion Gogledd Cymru o hyd, dilynwch lwybr garw i fyny’r llethr coediog, dros gamfeydd haearn hynafol ac ewch heibio i fythynnod sy`n wag ers blynyddoedd maith at y gweundir agored.

Wedi i chi gerdded llwybr Taith y Pererin Gogledd Cymru am gryn bellter, ewch ar fforch rhwng gweithfeydd chwarel ac i lawr at bentref  Y Fron. Wedi i chi groesi caeau, cerddwch ar hyd olion llwybr tramffordd i gychwyn, yna ar hyd cae rhedynog, lle gall y llwybr fod yn anodd ei weld.

Mae angen i chi gymryd gofal wrth i chi gerdded lawr y llechwedd rhwng y gweithfeydd chwarel trawiadol, y tipiau a’r melinau llechi segur. O’r diwedd, dewch at drac llydan sy’n eich arwain i bentref Nantlle.

Gwybodaeth am y llefydd ar hyd rhan hon y daith.  Nodwch nad yw Grŵp Gweithred Cymuned Cwm yn gyfrifol am wefannau mudiadau eraill.

Cwmni’r Welsh Highland Light Railway Limited

image1 23
Sefydlwyd Rheilffordd Ucheldir Cymru ym 1922 ar ôl uno Cwmni Rheilffordd lled Cul Gogledd Cymru (NWNGR) a Chwmni Rheilffordd Porthmadog, Beddgelert a De Eryri (PBSSR, olynydd i Gwmni Tramffordd Croesor, Porthmadog a Beddgelert ) â’i gilydd.

Yn wreiddiol roedd Cwmni Rheilffyrdd lled Cul Gogledd Cymru ond wedi adeiladu lein o gyffordd gyda rheilffordd traciau lled safonol y London & North Western yn Ninas cyn belled â De Eryri (Rhyd Ddu) gyda changen i wasanaethu chwareli uwchben Bryngwyn.
Fe agorwyd y ddwy lein mewn dau gam, ym 1877 a 1881. Yna, aeth lein y Bryngwyn i ddwylo’r gweinyddwyr a lein De Eryri ym 1916 i’w dilyn. Fe gaewyd lein y Bryngwyn i deithwyr ym 1913 ond cludwyd nwyddau arni tan 1922. Yn ddiweddarach, ffurfiodd leiniau Cwmni Rheilffyrdd lled Cul Gogledd Cymru, y NWNGR ran ogleddol Rheilffordd yr Ucheldir.
Ym 1902 cymerodd y PBSSR fusnes Cwmni Rheilffordd Tram Porthmadog, Croesor a Beddgelert drosodd gyda’r nod o’i ymestyn i chwarel lechi De Eryri ym Mwlch Aberglaslyn, Nant Gwynant, ond ni chwblhawyd y lein. Collodd y PBSSR ei phwerau cyfreithiol ym 1913 a throsglwyddwyd eu gwaith i gwmni NWNGR ym 1914.
Erbyn 1921, roedd y NWNGR, y PBSSR, Rheilffordd yr Wyddfa a Rheilffordd Ffestiniog dan gydberchnogaeth ac yn cael ei rheoli gan gwmni’r North Wales Power & Traction Company Ltd.
Ym 1922 fe wnaed gorchymyn i sefydlu Cwmni Rheilffordd Ucheldir Cymru (Welsh Highland Light Railway Company).
Ni fu’n llwyddiant. Aeth y perchnogion ati i agor y caffi bwffe cyntaf ar lein rheilffordd gul a pheintio’u cerbydau mewn lliwiau llachar er mwyn denu ymwelwyr. Ond bu’r fenter hon yn ofer a rhedodd y trenau olaf i deithwyr ar 5 Medi 1936.
Adferwyd y rheilffordd yn ystod diwedd y 1990au / dechrau’r 2000au ac mae’n cynnwys estyniad i Gaernarfon.

http://www.festrail.co.uk/

http://colonelstephenssociety.co.uk/

Y Fron
Roedd y Fron yn enwog am ei llechi ers talwm. Mae poblogaeth fywiog yn byw yma. Nod y gymuned leol yw adnewyddu hen adeilad Ysgol Gynradd Bron y Foel a chreu canolfan sy’n cynnwys siop, caffi, darpariaeth gwasanaethau iechyd a lles a byncws moethus sy’n berthnasol i dwristiaeth ar raddfa fach Llwybr Llechi Eryri.

www.fron.org.uk

image2 26

 

Dyffryn Nantlle
Datblygodd pentrefi dyffryn Nantlle ddiwedd y 18fed ganrif i wasanaethu’r diwydiant llechi lleol. Ar un adeg, roedd tua 40 chwarel yn nyffryn Nantlle.

O ardaloedd amaethyddol Môn ac Arfon y daeth y chwarelwyr yn bennaf a dyna pam y bu’r diwydiant mor Gymreig ar hyd yr amser. Tua 80% o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf erbyn hyn.
Peintiwyd y darlun hwn o’r ‘Wyddfa o Lyn Nantlle’ [1765] gan Richard Wilson.

image3 29

http://www.nantlle.com/local-history.htm

image4 32

Band Llinynnol Dyffryn Nantlle tua.1900-1910. Cyflwynwyd i Gymdeithas Hanes Dyffryn Nantlle gan Goronwy O. Griffiths, Stryd Fawr, Penygroes, 1 Hydref 1930.

© 2017-18 Llwybr Llechi Eryri - Snowdonia Slate Trail. Cedwir pob hawl. Cynlluniwyd gan Creativity Jones.

Search

Iaith • Language

Legal