EU e-Privacy

Adran 3: Llanberis i Waunfawr

3 image1 23

3. Llanberis i Waunfawr

Pellter: 6.1km, 3.8milltir     Esgyniad: 310m, 1000tr     Amser: 2 - 3awr

Mae’r rhan i Waunfawr yn gadael Llanberis drwy ei strydoedd cul cyn dringo ochr y dyffryn i groesi uwchben Llanberis. Aiff traciau coedwig da â chi at lwybr troed i lawr i Waunfawr a rhan ddewisol llwybr Taith y Pererin Gogledd Cymru.

Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.

Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (JPG)

Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML

Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (JPG)

Gadewch Stryd Fawr ar hyd Lôn Tŷ Du, Llanberis a cherddwch ar lôn gul serth drwy’r i gyraedd trac yn rhedeg uwchben y dyffryn.

Dilynwch ffordd goedwigaeth lydan ac ewch drwy weithfeydd chwarelu cyn ymuno â lôn gul. Cerddwch ar hyd y lôn tan i chi weld arwyddion llwybr dewisol Taith Y Pererinion Gogledd Cymru. Dilynwch yr arwyddion hyn i Waunfawr.

Gwybodaeth am y llefydd ar hyd rhan hon y daith.  Nodwch nad yw Grŵp Gweithred Cymuned Cwm yn gyfrifol am wefannau mudiadau eraill.

Parc Glynrhonwy
Gweithiwyd y chwareli hyn o’r 1700au hyd at 1930. Ym 1939, prynodd y Weinyddiaeth Awyr y Chwarel Isaf er mwyn storio dros 18,000 tunnell o arfau rhyfel a ffrwydron mewn adeilad deulawr. Yn Ionawr 1942, fe ddisgynnodd rhan sylweddol o’r adeilad a chladdwyd 14,000 tunnell o arfau rhyfel a 27 wagen a oedd wrthi’n dadlwytho. Wedi’r rhyfel, symudodd Ysgol Ffrwydron Awyrlu Brenhinol Llanberis i’r safle. Roedd cwricwlwm yr ysgol yn cynnwys gwaith tanio ffrwydron felly defnyddiwyd safle’r chwarel at ddibenion hyfforddi. Parhaodd hyn tan 1961. Dechreuodd y gwaith o glirio ffrwydron oddi ar y safle ym 1969, a chymerodd y dasg bron i chwe mlynedd.

image1 23

Taith y Pererin Gogledd Cymru
Llwybr tua 130 milltir yw Taith y Pererin Gogledd Cymru sy’n cychwyn yn Abaty Basingwerk (Dinas Basing). Roedd yr abaty’n gweithredu fel ysbyty i bererinion ar eu taith i Ffynnon Groyw yn ystod y Canol Oesoedd.

Mae’r llwybr yn dathlu treftadaeth y seintiau Celtaidd hynny y llithrodd eu straeon i ebargofiant ond adleisir y coffa amdanynt mewn eglwysi hynafol â ffynhonnau sanctaidd ar hyd y ffordd.

Fel yn y gorffennol, mae eglwysi bychain o garreg sy’n swatio ar y llethrau’n cynnig cysgod a gorffwys i gerddwyr.
Mae llawer i’w weld yma, gan gynnwys croes garreg 12 troedfedd Maen Achwyfan sy’n 1,000 o flynyddoedd oed. Saif yn enigmatig, arunig mewn cae. Mae arni gerfiadau a phatrymau Celtaidd a Llychlynnaidd. Mae’r llwybr yn mynd heibio i gylchoedd cerrig sydd wedi goroesi’n dda uwchben dyffryn Conwy.
Uchafbwynt y daith yw croesi at Ynys Enlli mewn cwch agored.

http://www.pilgrims-way-north-wales.org/

image2 26

© 2017-18 Llwybr Llechi Eryri - Snowdonia Slate Trail. Cedwir pob hawl. Cynlluniwyd gan Creativity Jones.

Search

Iaith • Language

Legal