EU e-Privacy

Adran 2: Bethesda i Lanberis

2 image1 23

2. Bethesda i Lanberis

Pellter: 11.6km, 7.2milltir      Esgyniad: 360m, 1200tr     Amser: 3 - 4awr

Mae’r rhan o Fethesda i Lanberis yn eich arwain drwy galon y diwydiant llechi. Wedi i chi ddilyn Afon Ogwen am ychydig, cerddwch y llwybr ar hyd glan yr afon a dringwch o ddyffryn Ogwen i Fynydd Llandegai ar hyd ffyrdd llai. Wedi croesi gweundir gwyllt Gwaun Gynfi, mae llwybrau da yn eich arwain at Barc Padarn,  Amgueddfa Lechi Cymru a Llanberis.

Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.

Dolen i fap (JPG)

Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML

Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (JPG)

Gadewch y Stryd Fawr drws nesaf i Aldi, a dilynwch yr Ogwen am ychydig cyn dechrau dringo o’r dyffryn ar hyd llwybr coetir a ffordd lai i Fynydd Llandegai.

Wedi i chi gerdded ar hyd Lôn Gefnan, cerddwch at y gweundir agored. I gychwyn, mae’r llwybr yn un da ond daw’n anos ei weld ac mae’n wlyb mewn mannau. Yna, ceir llwybrau caeau da, ffyrdd a lonydd llai i goetir Parc Padarn.

Dilynwch yr arwyddbost i Amgueddfa Lechi Cymru, ewch heibio i Ysbyty Chwarel Dinorwig a adferwyd yn ddiweddar a chroeswch Reilffordd Padarn. Ar ôl eich ymweld â’r amgueddfa hynod ddiddorol hon, cerddwch lwybr y llyn i Lanberis.

Gwybodaeth am y llefydd ar hyd rhan hon y daith.  Nodwch nad yw Grŵp Gweithred Cymuned Cwm yn gyfrifol am wefannau mudiadau eraill.

Felin Fawr
Mae adeilad cynharaf safle Chwarel Felin Fawr yn dyddio o 1803. Yr adeilad cyntaf a godwyd oedd y felin lifio llechi gorllewinol. Yn ddiweddarach, ychwanegwyd adeiladau eraill oedd yn cynnwys ail felin lifio llechi a agorwyd tua 1830, ffowndri, offer peirianyddol, rheilffordd chwarel a sawl melin lechi.
Mae Felin Fawr yn eiddo i Felin Fawr Cyf ar hyn o bryd ac mae`r rhan fwyaf yr adeiladau’n cael eu rhentu i amrywiaeth dda o gwmnïau lleol.

image1 22

Cymdeithas Rheilffordd Chwarel y Penrhyn
Mae Rheilffordd Chwarel y Penrhyn yn dyddio i’r 1801 pan gysylltwyd Porth Penrhyn i lein y brif reilffordd yn Felin Fawr, Bethesda gan yr Arglwydd Penrhyn.
Roedd y rheilffordd ar bedair lefel ac wedi eu cysylltu gan inclenau. Defnyddid ceffylau i dynnu tua ugain o wagenni llawn llechi garw i fyny ac i lawr y trac rhwng yr incleiniau.
Yn ystod y 1870au yn sgîl cystadleuaeth oddi wrth chwareli eraill, aeth y cwmni ati i wella’r ffordd er mwyn osgoi’r inclenau.

Archebwyd tair injan DeWinton ym 1876 ar gyfer y brif lein. Maent yn locomotifau eithaf rhyfedd, prin, a’u patrwm yn dilyn cynllun llorweddau silindr dwbl. Roedd gan DeWinton o Gaernarfon locomotifau a chanddynt gynllun boeleri fertigol. Roedd y rhain yn fwy masnachol lwyddiannus.

image2 25

Profodd cwmni DeWintons eu bod mor aneffeithiol fel y comisiynwyd cwmni Hunslet Engine o Leeds i gynllunio locomotif newydd ar gyfer prif reilffordd y Penrhyn. Archebwyd Charles ym 1882 ac yr oedd mor boblogaidd fel yr archebwyd dau locomotif ychwanegol a chyrhaeddodd Blanche a Linda ym 1893.
Caewyd Rheilffordd Chwarel y Penrhyn yn swyddogol i draffig ar 24 Gorffennaf 1962. Aeth trac y rheilffordd  i Reilffordd Ffestiniog fel rhodd a chawsant eu codwyd ym 1965. Yn 2004, sefydlwyd cwmni i adfer rhan o’r rheilffordd a’r gweithfeydd llechi gwreiddiol yn Felin Fawr, Coed-y-Parc, ger Bethesda. Prynwyd tua milltir o wely’r trac gwreiddiol.

http://www.penrhynqrs.co.uk

http://www.penrhynrailway.co.uk

Mynydd Llandegai
Nodweddir y pentref gan ddwy res gyfochrog o fythynnod chwarel a adeiladwyd yn ystod y 19eg ganrif i chwarelwyr y Penrhyn, pob un a chanddo tuag acer o dir i fwydo’r teulu sy’n nodweddu’r pentref.
Yr enw gwreiddiol arno oedd Allt Douglas, ond newidiwyd yr enw i Fynydd Llandegai yn ystod y 1930au wedi i’r preswylwyr benderfynu nad oeddent am gysylltu eu hunain gyda’r enw Douglas, oherwydd y cysylltiad â theulu’r Penrhyn.

image3 27

Parc Padarn
Mae Parc Gwledig Padarn yn warchodfa natur 800 erw sy’n cynnwys Coed Dinorwig, coetir hynafol Derw Digoes a Chwarel Vivian. Mae Llyn Padarn a Choed Dinorwig yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Llyn Padarn yw chweched llyn dyfnaf Cymru ac mae’n cyrraedd dyfnderoedd hyd at 30m (100troedfedd). Mae’n un o dri chynefin y Torgoch Arctig prin. 

Mae’r parc yn gartref i hen ysbyty’r chwarel, yr Amgueddfa Lechi a Rheilffordd Llyn Llanberis. Ceir safleoedd picnic ger y llyn, crefftau a gweithgareddau antur.
Gerllaw mae Castell Dolbadarn, un  amddiffynfeydd prin tywysogion Gwynedd.

image4 30

image5 32

visitsnowdonia.info/padarn_country_park-219.aspx
www.llanberis.com/dolbad.html

Amgueddfa Lechi Cymru
Saif Amgueddfa Lechi Cymru yng ngweithdai Fictoriaidd chwarel helaeth Dinorwig.
Yma cewch hanes y diwydiant llechi a dysgu am ffordd o fyw a naddodd ei hun i gymeriad ein gwlad.

Cynlluniwyd y gweithdai a’r adeiladau gyda’r nod o roi’r argraff i’r chwarelwyr a’r peirianwyr roi eu hoffer i lawr a gadael am adref. Gellir clywed sgyrsiau a gweld arddangosfeydd sy’n cynnwys hollti llechi sy’n rhoi cipolwg i chi ar fywyd y chwarel.

image6 35

image7 38

 https://museum.wales/slate/https://museum.wales/slate/

Ysbyty Chwarel Dinorwig
Adeiladwyd ysbyty Chwarel Dinorwig ym 1860, gan gyfraniadau’r chwarelwyr yn bennaf. Dyma oedd un o adeiladau cyntaf yr ardal i gael dŵr poeth ac oer yn rhedeg a thrydan. Parhaodd llawdriniaethau gyffredinol yma hyd y 1940au ac roedd un o beiriannau pelydr X cynharaf gogledd Cymru yn yr ysbyty. Llechen wedi ei lathru yw`r slab yn yr ystafell Bost Mortem. Nid oes tâl mynediad.




http://www.penmorfa.com/Slate/Dinorwic%20Quarry%20Hospital.html

image8 40

Rheilffordd Llyn Padarn Cyf
Mae lled Rheilffordd y Padarn yn gul, yn mesur 4 troedfedd (1,219 mm) ac arferai gludo llechi’r saith milltir (11 km) o Chwarel Dinorwig i Bort Dinorwic. Defnyddid ceffylau i wasanaethu’r lein wreiddiol ond yn 1841 dechreuodd y gwaith o godi lein yn ei lle ac fe’i hagorwyd ar 3 Mawrth 1843. Trowyd at locomotifau ager erbyn 23 Tachwedd 1848.
Mae Rheilffordd Llyn Padarn bellach yn rheilffordd i dwristiaid a thynnir y trenau gan un o’r injanau stêm hanesyddol. Mae’r siwrnai’n mynd am bum milltir ar hyd glan Llyn Padarn heibio Castell Dolbadarn sy’n dyddio o`r drydedd ganrif ar ddeg ac yn croesi beth allai fod, o bosibl, yn afon fyrraf Prydain, heibio dau lyn Llanberis i gyrraedd pentref Llanberis. Oddi yma, mae’r trên yn rhedeg yn ddi-rwystr drwy Barc Gwledig Padarn gan ymuno â’r hen reilffordd lechi o 1845 ac ymlaen hyd lannau Llyn Padarn i Benllyn. Ar y ffordd, ceir golygfeydd digymar o’r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru a Lloegr.

http://www.lake-railway.co.uk/

image9 43

Llanberis
Heddiw mae Llanberis yn atyniad pwysig. Gallwch ddal trên o’r pentref i gopa’r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru a Lloegr neu gallwch gerdded un o’r sawl llwybr i’r copa sydd dros 3,000 troedfedd.
Y Mynydd Gwefru yw un o ryfeddodau modern diwydiannol Cymru, os nad y byd. Mae’r orsaf bŵer trydan dŵr anferthol wedi ei adeiladau y tu mewn i’r mynydd yng nghanol milltiroedd o dwneli sy’n cario ffyrdd a dŵr. Dywedir mai’r siambr danddaearol sy’n cynnwys y prif dwrbein a siambr y generadur mwyaf erioed i’w gloddio. Mae taith fws o’r orsaf bŵer yn dechrau o arddangosfa’r 'Ddraig yn y Mynydd' yn Llanberis.

http://www.electricmountain.co.uk/

image10 46

Pete's Eats, Llanberis

 

© 2017-18 Llwybr Llechi Eryri - Snowdonia Slate Trail. Cedwir pob hawl. Cynlluniwyd gan Creativity Jones.

Search

Iaith • Language

Legal