e-bost

info@snowdoniaslatetrail.org

English

y llwybr
Cynllunio’r daith

Cerdded y Llwybr a defnyddio’r wefan a’r ap.

Defnyddiwch y safwe hwn i ddilyn a darganfod Llwybr Llechi Eryri sydd yn 83 milltir o hyd. Mae’r ap. lawrlwythadwy yn defnyddio tehcnoleg GPS i gyflwyno gwybodaeth berthnasol i ble yr ydych arno ar y pryd. Mae’n cynnwys mapiau, cyfarwyddiadau, gwybodaeht am agweddau o ddiddordeb a rhai atgofion llafar.

Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru heb os yn hynod ddiddorol, ond yn ôl ei natur yn medru bod yn anghysbell, peryglus a heriol. Mae cyfran sylweddol o’r tirwedd o fewn perchnogaeth preifat ac mae rhywfaint o hyn ar dir ble nad oes caniatâd i fynediad cyhoeddus.

Cyn i chi gychwyn allan i archwilio’r tirwedd llechi, gofynnwch i chi eich hunain, oes gen i’r hawl i ymweld a’r safle? Oes gen i’r offer cywir? Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd? Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod? Ewch i  Mentro’n Ddiogel  er mwyn darganfod sut i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel.

Llwybr yn dilyn hawliau tramwy cyhoeddus neu lwybrau caniatäol. Mae’n croesi parthau garw ac anghysbell, yn mynd heibio hen chwareli neu’n dilyn lonydd cefn. Nid yw cynllunwyr Llwybr Llechi Eryri yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ei ddefnyddio nac am unrhyw gamgymeriadau parthed cynnwys y wefan a’r ap.

Os gwelwch yn dda, gadewch i ni wybod am unrhyw wybodaeth wallus ar y wefan neu’r ap. a byddwn yn ei gywiro cyn gynted ag y gallwn.

Edrychwch ar y fideos hyn gan Anthony Pipes yn eich hamdden i gael blas ar y Llwybr.Edrychwch ar y fideos hyn gan Anthony Pipes yn eich hamdden i gael blas ar y Llwybr.

 

Diwrnod 1 Bangor i Llanberis

Diwrnod 2 Llanberis i Goedwig Beddgelert

Diwrnod 3 Coedwig Beddgelert i Llan Ffestiniog

Diwrnod 4 Llan Ffestiniog i Betws y Coed

Diwrnod 5 Betws y Coed i Fethesda

Medalau coffa a phasbort Llwybr Llechi Eryri

Gall cerddwyr sydd eisiau momento o’u taith gerdded ennill medal bronzed drawiadol trwy lenwi eu pasbort. Naill ai anfonwch eich pasbort atom, y byddwn yn ei ddychwelyd, neu lungopi o’r pasbort. Mae’r holl elw o’r cynllun hwn yn mynd tuag at gynnal a gwella’r Llwybr. Mae manylion ar gael ar www.snowdoniaslatetrail.info

Llety a lluniaeth

Mae gan rai llefydd lety cyfyngedig, megis Llan Ffestiniog a Phenmachno ond bydd yn hanfodol archebu ymlaen llaw. Mae manylion llety a lluniaeth ar gael ar www.snowdoniaslatetrail.info

Nid oes siopau rhwng Llanberis a Beddgelert felly bydd angen i chi sicrhau eich bod yn prynu a chludo’ch bwyd a diod cyn i chi gychwyn o’r llefydd hyn.

Bydd angen i chi drefnu prydau bwyd ar ddiwedd eich diwrnod. Unwaith eto, cyfleoedd bwyta cyfyngedig iawn sydd gan Llan Ffestiniog a Phenmachno. O leiaf mae gan Llan Ffestiniog a Penmachno siop fach.

Llety a Lluniaeth

Cerdded y llwybr trwy defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus

Mae’n bosibl gwneud y Llwybr mewn saith diwrnod gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus o Gaernarfon neu Fangor. Mae maes parcio cyhoeddus am ddim ychydig o’r pen Llwybr yn Beach Road. Mae’r parcio wrth y Llwybr ei hun yn breifat.

 

Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth ar gael ar ap Traveline Cymru.

 

Diwrnod 1. Bangor – Bethesda – Llanberis

Dychwelwch. Llanberis i Fangor ar fws

 

Diwrnod 2. Llanberis – Waunfawr – Nantlle

Allanol. Bangor i Llanberis ar fws

Dychwelwch. Nantlle i Gaernarfon i Fangor ar fws

 

Diwrnod 3. Nantlle – Rhyd Ddu- Beddgelert

Allanol. Bangor i Gaernarfon i Nantlle ar y bws

Dychwelwch. Beddgelert i Pen y Pass i Fangor ar fws

 

Diwrnod 4. Beddgelert- – Croesor – Blaenau Ffestiniog – Llan Ffestiniog

Allanol. Bangor i Gaernarfon i Beddgelert ar fws

Dychwelwch. Llan Ffestiniog i Blaenau ar fws ac yna trên i Gyffordd Llandudno i Fangor.

 

Diwrnod 5. Llan Ffestiniog – Cwm Penmachno

Allanol. Bangor i Gyffordd Llandudno i Blaenau ar y trên ac yna bws i Lan Ffestiniog.

Dychwelwch. Cwm Penmachno i Gyffordd Llandudno ar fws Ffelcsi yna bws neu drên i Fangor

 

Diwrnod 6. Cwm Penmachno – Penmachno – Betws y Coed – Capel Curig

Allanol. Bangor i Gyffordd Llandudno i Betws ar y trên yna bws Fflecsi i Cwm Penmachno

Dychwelwch. Capel Curig i Llanberis i Fangor ar fws

 

 

Diwrnod 7. Capel Curig – Bethesda

Allanol. Bangor i Gaernarfon i Capel Curig ar fws

Dychwelwch. Bethesda i Fangor ar fws.

 

Efallai mai dechrau yng Nghaernarfon fyddai orau gan fod y mwyafrif o fysiau’n tarddu / terfynu yno.

Mae gwasanaeth Sherpa yn wasanaeth gwych os ydych chi’n gwybod eich ffordd o gwmpas yr amserlen

Dim ond un bws uniongyrchol sydd am 1625 o Gwm Penmachno sy’n mynd i Llandudno. Trefnwch y Fflecsi os ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n hwyrach neu’n mynd ymlaen i Penmachno.

Hefyd, wele https://www.trawscymru.info/t10/ and bysiau rhwng Bangor a Betws y Coed

Mae bws Traws Cymru T10 yn rhedeg drwy’r flwyddyn, bob 2 awr rhwng Bangor a Chorwen, felly mae’n ddefnyddiol iawn ar gyfer y rhan o’r Llwybr rhwng Bangor a Betws (am Benmachno).

Trosglwyddo bagiau a gwasanaethau tywys

Er bod hwn yn Llwybr newydd, mae nifer o gwmniiau lleol eisoes wedi ymgymryd â darparu amrywiaeth o wasanaethau i gerddwyr:

 

Gall RAW Adventures ddarparu gwasanaeth hebrwng neu heb dywysedd ond gyda chymorth llawn wrth gefn. Os ydych chi`n ymuno â grwp a arweinir gan RAW neu am gerdded yn annibynnol, byddant yn eich croesawu ar y cychwyn ac yn treulio peth amser yn mynd trwy’r hyn sydd i’w ddisgwyl dros y 6 niwrnod nesaf. Byddant yn trosglwyddo eich bagiau felly byddant yn barod ac yn aros amdanoch ar ddiwedd pob dydd. Maent hefyd yn cynnig rhif cyswllt 24/7 y gallwch ei ddefnyddio pe baech yn mynd i anhawster am unrhyw reswm. Yn ogystal ag archebu’ch llety ar hyd y Llwybr, maent hefyd yn rhoi map o’r llwybr cyfan wedi’i nodi’n drylwyr. Cysylltwch â nhw ar 01286 870 870 neu ewch i www.raw-adventures.co.uk. Lleolir swyddfa  RAW yn Llanberis, ychydig oddi ar Lwybr Llechi Eryri ger Llyn Padarn.

Mae Anelu/Aim Higher yn darparu gwasanaeth llawn a gallwch gysylltu â nhw ar 07877 902624 neu edrychwch ar www.mountain-hill-courses.co.uk.

Mae Breese Adventures yn cynnig her 5 diwrnod sy’n cynnwys arweinydd mynydd cymwys a phrofiadol, llety 4 noson ’, pob pryd bwyd, trosglwyddo bagiau a medal efydd goffaol Llwybr Llechi Eryri. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Tracey ar 07525 625 375 neu ewch i https://www.breeseadventures.co.uk/events/snowdonia-slate-trail/

Mae Contours Holidays yn cynnig Llwybr Llechi Eryri fel pecyn gwyliau cerdded hunan-dywysedig cyflawn, i gynnwys llety Gwely a Brecwast, trosglwyddiadau bagiau a mapiau a thywyslyfr. Rydym yn cynnig y llwybr llawn neu opsiwn egwyl fer hefyd. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar http://wwcontours.co.uk/snowdonia-slate-trails

 

Mae Exodus Travels yn darparu gwasanaethau llety llawn a throsglwyddo bagiau ar gyfer taith gerdded hunan-dywysedig ar hyd y Llwybr. Ewch i https://www.exodus.co.uk/wales-holidays/walking-trekking/walking-snowdonia-slate-trail/tdx

Gall Snowdon Taxi o Lanberis ddarparu gwasanaethau cario bagiau. Ffôn: 01286 871768

Mae nifer o wefannau ar gael gyda manylion llety yn ogystal â throsglwyddo bagiau a gwasanaethau arwain.

0
    0
    Your Cart
    Your cart is emptyReturn to Shop