e-bost

info@snowdoniaslatetrail.org

English

y llwybr

Adran 8: Croesor i Danygrisiau
Pellter: 7.4km, 4.6milltir Esgyniad: 470m, 1550tr Amser: 3 – 4 awr
Mae’n debyg mai dyma ran fwyaf gwyllt ac egnïol y llwybr hyd yn hyn. Aiff llwybr da â chi i fyny llethrau dyffryn Croesor i chwarel Croesor. Er mwyn cyrraedd chwarel anghysbell Rhosydd mae angen sgiliau cyfeiriannu er y ceir arwyddbyst. O’r fan hon mae llwybr llydan yn mynd â chi i lawr at Lyn Cwmorthin a’i anheddiad segur. O’r fan hon ceir ffordd i lawr at Danygrisiau.

O Gaffi Croesor, cerddwch ar hyd y ffordd i fyny’r dyffryn a dilynwch y llwybr llydan sy’n dringo’r ochr ddeheuol i chwarel Croesor. Wedi i chi fynd heibio i adeiladau adfeiliedig, cadwch at yr olion llwybr sy’n dringo’n raddol rhwng yr adfeilion a chadwch i’r chwith uwchben y chwarel. Ymhen ychydig, dilynwch y llwybr sy’n croesi argae Llyn Croesor. Ewch yn eich blaen dros dir corsiog ar brydiau ac anelwch am graig fawr wen ger camfa. Rydych yn sefyll uwchben chwarel Rhosydd erbyn hyn.

Cerddwch drwy’r chwarel a dilynwch y llwybr llydan serth i lawr at Lyn Cwmorthin. Fe welwch res o dai adfeiliedig a Chapel y Gorlan sydd heb ei do. Ewch heibio iddynt a dilynwch y llwybr ar lan yr afon. Wedi i chi gyrraedd y tai, croeswch yr afon a galwch yng Nghaffi’r Llyn yn Nhanygrisiau.

Gwybodaeth am y llefydd ar hyd rhan hon y daith. Nodwch nad yw Grŵp Gweithred Cymuned Cwm yn gyfrifol am wefannau mudiadau eraill.

Ar hyd y ffordd

Chwarel Croesor

Dechreuwyd chwarela llechi tanddaearol Croesor ar raddfa fach yn ystod y 1840au. Roedd Tramffordd Croesor yn gwasanaethu’r chwarel. Ond fe’i caewyd 40 mlynedd yn ddiweddarach.
Ym 1895, ail agorwyd y chwarel gan ei rheolwr Moses Kellow, ystyrid ef yn arloeswr a defnyddiodd ddulliau gwaith modern. Penderfynodd drydaneiddio’r gwaith, ac adeiladodd orsaf drydan dŵr. Roedd yn ffafrio dull drilio a alwai am gael moduron i yrru winsiau a locomotif trydan, y cyntaf i weithio yng Nghymru. Fe’u prynwyd o Prague. Ei arloesedd mwyaf oedd ei ddril Kellow, ebill hydrolig a allai drilio twll 7.5 troedfedd (2.3 m) yn y llechi ymhen dwy funud, llawer llai na’r diwrnod y cymerai i ddrilio â llaw. Caeodd y chwarel ym 1930.

Defnyddiodd Cookes Explosives y siambrau i storio deunyddiau tan ddechrau’r 1970au. Pan glywodd y Central Electricity Generating Board am hyn, daeth y drefn i ben oherwydd ofnent y byddai ffrwydrad tanddaearol yn difrodi’r argaeau a storfa bwmp Gorsaf Bŵer Ffestiniog. Roedd y llwybr tanddaearol o Groesor i Rosydd yn enwog os nad yn beryglus i archwilwyr y mwynfeydd. Nid yw Llwybr Llechi Eryri’n croesi’r bont hon!

https://en.wikipedia.org/wiki/Croesor_Quarry

http://www.28dayslater.co.uk/croesor-rhosydd-through-trip-april-2011.t60503

 

Chwarel Rhosydd

Roedd lleoliad anghysbell Chwarel Rhosydd yn rhwystr ac roedd cludiant yn anodd oherwydd rhedai rheilffordd Ffestiniog drwy dir Chwarel Cwmorthin. Er mwyn mynd i’r afael â hyn agorwyd tramffordd Croesor ym 1864 ac fe gysylltwyd y chwarel gan un o inclenau hwyaf Cymru. Ym 1873 aeth y cwmni’n wirfoddol i ddwylo’r gweinyddwyr.

Gwerthwyd y chwarel mewn ocsiwn ym 1874, a sefydlwyd y Rhosydd Slate Quarry Company Ltd newydd. Daliodd y chwarel ei thir am dipyn, ond trodd yn llai proffidiol ac ym 1900, cwympodd rhan fawr o’r gweithfeydd tanddaearol. Yn ystod y Rhyfel Mawr fe’i cadwyd yn segur ond ail agorodd ym 1919, pan brynodd teulu Colman sy’n enwog am ei fwstard y chwarel. Daliai i hepian yn fasnachol tan iddi gau am y tro olaf ym 1948.
Dywedwyd fod barics y chwarelwyr mewn cyflwr difrifol – yn oer, gwyntog a budr.

 

https://en.wikipedia.org/wiki/Rhosydd_Quarry

http://www.penmorfa.com/Rhosydd/description.htm

 

Cwmorthin

Yn ystod y 1880au y dechreuwyd chwarelu yng Nghwmorthin. Er gwaethaf allbwn sylweddol y chwarel arweiniodd peryglon o dan y ddaear a chreigiau’n dymchwel at berfformiad ariannol gwael a newidiodd rheolaeth y chwarel sawl gwaith.
Yn 1930 roedd chwarel Cwmorthin yn nwylo perchnogion yr Oakley o Flaenau Ffestiniog a buont yn ei gweithio tan 1970, pan na allai dalu a chynnal a chadw’r pympiau anferth yn rhedeg er mwyn atal dŵr yn y gwaith. Gydol y 1980au a dechrau’r 1990 ond tîm bychan o ddynion lleol oedd yn gweithio yng Nghwmorthin. Daeth y fenter hon i ben hefyd, gydag ymdrechion aflwyddiannus cwmni McAlpines PLC tua’r flwyddyn 2000 i frigdorri gweithfeydd hynafol Cwmni Llechi Cwmorthin.
Ond sawl milltir o dwneli a channoedd o siambrau anferthol sydd i’w gweld heddiw. Gellir canfod arteffactau yn amrywio o gyrn powdwr i risiau pren, o winsiau i wagenni a chraeniau i bontydd yn y gweithfeydd. Ceidwaid y chwarel yw Cyfeillion Cwmorthin a’i nod yw ei hyrwyddo, ei chadw, ei chofnodi a’i harchwilio.

http://www.cwmorthin.com/

http://www.cwmorthin.org/about_cwmorthin.asp

 

Caffi Mari (Lakeside Cafe)

Cewch egwyl i’w groesawu yng Nghaffi Mari ar lan llyn Tanygrisiau
https://www.facebook.com/caffilakeside

 

Tanygrisiau

Mae’r enw Tanysgrigiau’n cyfeirio at y clogwyni grisiog uwchben y pentref. Roedd Tanygrisiau’n enwog am ei chwarelu llechi, yn cynhyrchu llechi du o safon uchel a ddefnyddiwyd ym mhob cwr o’r byd. Fe’u cludidar Reilffordd Ffestiniog at y môr ym Mhorthmadog. Allforiodd Porthmadog symiau helaeth o lechi ar draws y byd ac mae Amgueddfa Forwrol Porthmadog yn disgrifio hyn yn fanwl iawn.

https://portmm.org/

The nearby Ffestiniog power station, the high Stwlan Dam and Tanygrisiau Reservoir are part of a pumped storage hydroelectricity installation
https://www.festipedia.org.uk/wiki/Tanygrisiau

y llwybr
Adrannau

Adran 1: Bangor i Fethesda

Adran 2: Bethesda i Lanberis

Adran 3: Llanberis i Waunfawr

Adran 4: Waunfawr i Nantlle

Adran 5: Nantlle i Rhyd Ddu

Adran 6: Rhyd Ddu i Feddgelert

Adran 7: Beddgelert i Croesor

Adran 8: Croesor i Danygrisiau

Adran 9: Tanygrisiau i Lan Ffestiniog

Adran 10: Llan Ffestiniog i Benmachno

Adran 11: Penmachno i Fetws y Coed

Adran 12: Betws y Coed i Capel Curig

Adran 13: Capel Curig i Fethesda

0
    0
    Your Cart
    Your cart is emptyReturn to Shop