O Feddgelert, dilynwch y Glaslyn ar hyd llwybr wedi ei balmantu drwy barcdir, gan ymweld â bedd Gelert gerllaw o bosibl. Wedi i chi groesi’r afon a’r rheilffordd, dilynwch y llwybr cyffrous garw sy’n croesi pontydd a cherddwch y llwybrau ystyllod pren sy’n swatio glos at y graig serth. Dyma Fwlch Aberglaslyn. Ar ddiwedd llwybr glan yr afon dringwch i’r chwith gydag ochr y ffordd at faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nantmor, lle ceir toiledau.
Yna, cerddwch y lon gul at bentref hardd Bwlchgwernog lle mae ffordd y porthmyn yn croesi’r gweundir i Groesor. Chwiliwch am y garreg filltir hynafol.
Gwybodaeth am y llefydd ar hyd rhan hon y daith. Nodwch nad yw Grŵp Gweithred Cymuned Cwm yn gyfrifol am wefannau mudiadau eraill.
Dadlwythiadau
Ar hyd y ffordd
Beddgelert
Mae safle`r bedd mewn cae yn rhan ddeheuol y pentref
Dyma’r arysgrifen ar garreg fedd Gelert:
“Yn y 13eg, roedd gan Llywelyn, tywysog Gogledd Cymru, blas ym Meddgelert. Un diwrnod aeth y tywysog i hela heb Gelert ei gi ffyddlon. Pan ddychwelodd Llywelyn, neidiodd y ci’n waed i gyd i groesawu ei feistr.
Dychrynodd y tywysog a brysiodd i chwilio am ei fab a chafodd crud y baban yn wag, y dillad gwely ar lawr yn waed i gyd. Yn ei ddychryn trywanodd y tad y ci a’i gleddyf gan feddwl fod y ci wedi lladd ei aer. Atebwyd gwaedd farwol y ci gan gri egwan plentyn. Chwiliodd Llywelyn a chafodd ei fab yn ddianaf, ond yn ei ymyl gorweddai corff blaidd anferth a laddwyd gan Gelert. Dywedir i’r tywysog a’i galon yn llawn tristwch edifeiriol beidio gwenu byth wedyn. Claddodd Gelert yma ag am hynny gelwir y fan yn Bedd Gelert”
http://www.beddgelerttourism.com/
Ni cheir tystiolaeth o gwbl am fodolaeth Gelert er y gelwir twmpath yn y pentref yn ‘Fedd’ Gelert sy’n gyrchfan i dwristiaid. Yn hytrach, fe’i priodolir i awydd perchennog Gwesty’r Afr ym Meddgelert, David Pritchard i gysylltu’r chwedl â’r pentref er mwyn annog twristiaeth. Ceir chwedlau tebyg yn Ewrop ac Asia.[3]
Aberglaslyn
Dyma un o lecynnau prydferthaf enwocaf Cymru.
Mae hanes chwedlonol i Bont Aberglaslyn. Fe’i hadeiladwyd gan y diafol gyda’r ddealltwriaeth y byddai’n derbyn enaid y creadur byw cyntaf i’w chroesi. Wedi i’r diafol gwblhau ei bont, galwodd yn ei dafarn lleol, Y Delyn Aur. Bu iddo gyfarfod â’r dewin Robin Ddu, a aeth yn ufudd i archwilio’r bont newydd. Ac yntau’n cario torth o fara, denodd gi’r dafarn yn gwmni iddo. Dywedodd Robin wrth y diafol na fyddai’r bont yn ddigon cryf i ddal pwysau ei dorth hyd yn oed. Ffromodd y diafol a gorchmynnodd y dewin iddo daflu’r dorth ar y bont er mwyn gweld pa mor gryf ydoedd. Ar hynny, rhedodd y ci am y dorth. Twyllwyd y diafol o’i enaid dynol a dychwelodd Robin Ddu i’r dafarn i orffen ei beint.
Nantmor
Yn Nantmor mae cartref enwog Dafydd Nanmor, bardd adnabyddus o’r 15fed ganrif (bu farw ym 1490), a gafodd ei enw o bentrefan Nanmor.
Yma ffilmiwyd The Inn of the Sixth Happiness, ffilm 20th Century Fox ym 1957 sy’n seiliedig ar stori wir Gwladys Aylward, morwyn benderfynol o Brydain, a ddaeth yn genhades yn Tsieina yn ystod y blynyddoedd cythryblus cyn yr Ail Ryfel Byd.
Roedd fferm gyfagos Carneddi yn gartref i Ruth Janette Ruck. Cyhoeddodd trioleg o lyfrau am ei phrofiadau yn ystod y 1950au, 1960au a’r 970au, sef Place of Stones, Hill Farm Story a Along Came a Llama.
https://en.wikipedia.org/wiki/Nantmor
Croesor
Pentrefan yw Croesor wrth droed y Cnicht, Matterhorn Cymru. Âi tramffordd Croesor a wasanaethai chwarel Croesor ar hyd gwaelod y dyffryn, cyn codi’n serth i Fwlch Rhosydd drwy’r inclên.
Edrychwch ar y gwaith celf cyhoeddus y tu allan i’r maes parcio sy’n darlunio treftadaeth a diwylliant y pentref.
Cewch egwyl braf a chacen dda yng Nghaffi Croesor.

Adran 1: Bangor i Fethesda

Adran 2: Bethesda i Lanberis

Adran 3: Llanberis i Waunfawr

Adran 4: Waunfawr i Nantlle

Adran 5: Nantlle i Rhyd Ddu

Adran 6: Rhyd Ddu i Feddgelert

Adran 7: Beddgelert i Croesor

Adran 8: Croesor i Danygrisiau

Adran 9: Tanygrisiau i Lan Ffestiniog

Adran 10: Llan Ffestiniog i Benmachno

Adran 11: Penmachno i Fetws y Coed

Adran 12: Betws y Coed i Capel Curig
