y llwybr
Trosolwg o’r adran gan Vicky Anne Jones (yn Saesneg)
Gan adael maes parcio gorsaf Rhyd Ddu, croeswch y ffordd, ewch drwy’r giât addurnedig a dilynwch yr arwyddion i Feddgelert. Croeswch yr heol a adnewyddwyd a cherddwch heibio Llyn y Gadair at Goedwig Beddgelert. Dilynwch y llwybr a’r trac sydd wedi ‘u harwyddo’n dda sy’n croesi Rheilffordd Ucheldir Eryri sawl gwaith wrth fynd igam ogam i lawr yr allt serth i ddyffryn Afon Glaslyn.
Efallai y clywch hwtian trên Rheilffordd Ucheldir Eryri ar ochr arall y dyffryn, ac os bydd y tywydd yn caniatáu, mae’n bosibl gweld copa’r Wyddfa, a cholofn fechan o fwg yn chwythu o injan stem Rheilffordd yr Wyddfa .
Bydd gennych ddigon o ddewis o fwyd, diod a llety ym mhentref Beddgelert.
Gwybodaeth am y llefydd ar hyd rhan hon y daith. Nodwch nad yw Grŵp Gweithred Cymuned Cwm yn gyfrifol am wefannau mudiadau eraill.
Dadlwythiadau
Ar hyd y ffordd
Llwybr Lôn Gwyrfai
Dyma lwybr hamdden aml-ddefnydd 4½ milltir a grëwyd yn arbennig ar gyfer cerddwyr, beicwyr a phobl sy’n marchogaeth ceffylau. Mae’r llwybr yn arwain drwy amrywiaeth o dirweddau a gallwch fwynhau golygfeydd gwych o Ddyffryn Gwyrfai a’r Wyddfa a’i chriw.
Mae’r llwybr o Ryd Ddu i ochr orllewinol Llyn y Gadair yn wastad a llydan felly mae’n addas ar gyfer cerbydau tebyg i sgwteri cynorthwyol tir-garw (Tramper) neu gadeiriau olwyn pŵeredig. Fodd bynnag, mae rhannau eraill yn serth ac mae angen croesi pont droed neu ryd yng Nghoedwig Beddgelert.
http://www.eryri-npa.gov.uk/visiting/walking/leisure-walks/lon-gwyrfai
Beddgelert
Mae safle bedd mewn cae yn rhan ddeheuol y pentref
Dyma’r arysgrifen ar garreg fedd Gelert:
“Yn y 13eg, roedd gan Llywelyn, tywysog Gogledd Cymru, blas ym Meddgelert. Un diwrnod aeth y tywysog i hela heb Gelert ei gi ffyddlon. Pan ddychwelodd Llywelyn, neidiodd y ci’n waed i gyd i groesawu ei feistr.
Dychrynodd y tywysog a brysiodd i chwilio am ei fab a chafodd crud y baban yn wag, y dillad gwely ar lawr yn waed i gyd. Yn ei ddychryn trywanodd y tad y ci a’i gleddyf gan feddwl fod y ci wedi lladd ei aer. Atebwyd gwaedd farwol y ci gan gri egwan plentyn. Chwiliodd Llywelyn a chafodd ei fab yn ddianaf, ond yn ei ymyl gorweddai corff blaidd anferth a laddwyd gan Gelert. Dywedir i’r tywysog a’i galon yn llawn tristwch edifeiriol beidio gwenu byth wedyn. Claddodd Gelert yma ag am hynny gelwir y fan yn Bedd Gelert”
http://www.beddgelerttourism.com/
Ni cheir tystiolaeth o gwbl am fodolaeth Gelert er y gelwir twmpath yn y pentref yn ‘Fedd’ Gelert sy’n gyrchfan i dwristiaid. Yn hytrach, fe’i priodolir i awydd perchennog Gwesty’r Afr ym Meddgelert, David Pritchard i gysylltu’r chwedl â’r pentref er mwyn annog twristiaeth. Ceir chwedlau tebyg yn Ewrop ac Asia.[3]
Gwibfaen Beddgelert
Yn ystod oriau mân bore 21 Medi 1949, tarodd gwibfaen yn pwyso tua 5 tunnell westy’r Prince Llewelyn gan achosi difrod i’r to ac i ystafell wely islaw. Wedi hynny, gwerthodd y perchennog, Mr Tillotson hanner y gwibfaen i Amgueddfa Prydain. Roedd cynrychiolydd ar ran Prifysgol Durham wedi rhoi hysbyseb yn y papurau lleol yn holi am wybodaeth am y gwibfaen a chynigiodd wobr yn rhodd am gael ei weddillion.
https://en.wikipedia.org/wiki/Beddgelert#The_Beddgelert_Meteorite#
Coedwig Beddgelert
Mae’r goedwig yn gyrchfan boblogaidd i feicwyr mynydd, ac mae rhan fwyaf y llwybrau’n cynnwys rhannau o hen Reilffordd Ucheldir Cymru. Gellir llogi beiciau mynydd, tandemau, seddi plant a beiciau trelar am brisiau rhesymol er mwyn archwilio’r ardal o siop Beddgelert Bikes a Bike Barn, dwy filltir o Feddgelert.
Cwmni Camping in the Forest sy’n berchen safle gwersylla’r goedwig, mewn cydweithrediad â chymdeithas y Camping and Caravanning Club.
Yr Wyddfa
Yr Wyddfa yw mynydd uchaf Cymru ac mae’n cyrraedd uchder o 1,085m (3,560td). Dyma bwynt mwyaf gogleddol ynysoedd Prydain i’r de o ucheldir yr Alban a dywedir mai’r Wyddfa yw “mynydd prysuraf Prydain, o bosibl”. Dynodwyd yr Wyddfa’n Warchodfa Natur Genedlaethol a cheir planhigion ac anifeiliaid prin yno.
Mae wynebau clogwyni yr Wyddfa, gan gynnwys Clogwyn Du’r Arddu, yn bwysig o ran dringo creigiau, a bu i Syr Edmund Hillary a’r tîm ymarfer yma cyn dringo Everest ym 1953.
Mae sawl llwybr poblogaidd a rheilffordd yn arwain i’r copa. Chwalwyd hen gaffi’r 1930au ac yn 2009 adeiladwyd caffi a Chanolfan Ymwelwyr Hafod Eryri.
Tardda’r enw Saesneg’ Snowdon’ o’r Eingl-Sacsoneg. Ystyr ‘Yr Wyddfa’ yw claddfa neu feddrod. Yn ôl y traddodiad, cyfeiria at y garnedd ar gopa’r Wyddfa sef man claddu Rhita Gawr wedi iddo gael ei drechu gan y Brenin Arthur, yn ôl y traddodiad.
http://www.visitsnowdonia.info/

Adran 1: Bangor i Fethesda

Adran 2: Bethesda i Lanberis

Adran 3: Llanberis i Waunfawr

Adran 4: Waunfawr i Nantlle

Adran 5: Nantlle i Rhyd Ddu

Adran 6: Rhyd Ddu i Feddgelert

Adran 7: Beddgelert i Croesor

Adran 8: Croesor i Danygrisiau

Adran 9: Tanygrisiau i Lan Ffestiniog

Adran 10: Llan Ffestiniog i Benmachno

Adran 11: Penmachno i Fetws y Coed

Adran 12: Betws y Coed i Capel Curig
