e-bost

info@snowdoniaslatetrail.org

English

y llwybr
Adran 5: Nantlle i Ryd Ddu
Pellter: 8.2km, 5.1milltir Esgyniad: 260m, 850tr Amser: 2 – 3awr
Mae Dyffryn Nantlle yn lle prydferth, didramwy, gyda mawredd Mynydd Mawr ar y naill ochr a chlogwyni uchel Crib Nantlle ar y llall. Cewch lwybr esmwyth ar hyd gwaelod y dyffryn cyn esgyn, gydag un man corsiog iawn, i’r goedwig a disgyn i Ryd Ddu lle ceir tafarn a chaffi.„

Trosolwg o’r adran gan Vicky Anne Jones (yn Saesneg)

Dadlwythiadau

Teithiau gylchol ar hyd y Llwybr

Nodyn: Mae’r llwybr trwy’r goedwigaeth wedi’i newid. Dilynwch y llwybr presennol allan o’r dyffryn, gan gwrdd a’r goedwigaeth yn hen leoliad y gamfa. Trowch i’r ddenes gyrraedd giat newydd. Trowch i’r chwith i’r coed a pharhewch nes i chi gwrdd a’r prif lwybr. Yna trowch i’r dde i ymyno a’r llwybr gwreiddiol.

Ar hyd y ffordd

Llyn y Dywarchen

Flynyddoedd lawer yn ôl roedd tywarchen anferth, debyg i ynys symudol yn arnofio ar Lyn y Dywarchen. Ym 1188, dywedodd Gerallt Gymro fod gan y llyn ‘ynys yn arnofio yn ei ganol oedd yn cael ei yrru o un pen i’r llyn i’r llall gan rym y gwynt’. Bryd hynny roedd ei eglurhad yn berffaith resymol. ‘Rhan o’r lan sy’n clymu’n naturiol gan wreiddiau helyg a llwyni eraill efallai wedi eu torri ymaith a chael eu cynhyrfu gan y gwynt yn barhaus…ni all glymu’n gadarn gyda’r lan.’

Nofiodd y seryddwr a’r gwyddonydd Edmund Halley at yr ynys ym 1698 er mwyn gwirio ei bod yn arnofio.

Ym 1784, honnodd Thomas Pennant iddo weld yr ynys a chadarnhaodd ‘os digwydda i eidion grwydro arni y byddai yn rhaid aros arni nes y deuai i gyffyrddiad â glan arall, neu nofio am y lan.’
Dywed un chwedl i dad fynd a’i ferch ar yr ynys i’w rhwystro rhag priodi ei chariad a ddeuai o gefndir dosbarth gweithiol. Bu iddi farw o dor calon ond pe chwythid yr ynys i gyffwrdd y lan, gellid clywed ysbrydion y cariadon yn cusanu.
Nid oes tywarchen arni bellach.

 

http://www.mysteriousbritain.co.uk/wales/gwynedd/other-mysteries/llyn-y-dywarchen.html

 

Rheilffordd Ucheldir Cymru

Sefydlwyd Rheilffordd Ucheldir Cymru ym 1922 ar ôl uno Cwmni Rheilffordd lled Cul Gogledd Cymru (NWNGR) a Chwmni Rheilffordd Porthmadog, Beddgelert a De Eryri (PBSSR, olynydd i Gwmni Tramffordd Croesor, Porthmadog a Beddgelert ) â’i gilydd.

Yn wreiddiol roedd Cwmni Rheilffyrdd lled Cul Gogledd Cymru ond wedi adeiladu lein o gyffordd gyda rheilffordd traciau lled safonol y London & North Western yn Ninas cyn belled â De Eryri (Rhyd Ddu) gyda changen i wasanaethu chwareli uwchben Bryngwyn.
Fe agorwyd y ddwy lein mewn dau gam, ym 1877 a 1881. Yna, aeth lein y Bryngwyn i ddwylo’r gweinyddwyr a lein De Eryri ym 1916 i’w dilyn. Fe gaewyd lein y Bryngwyn i deithwyr ym 1913 ond cludwyd nwyddau arni tan 1922. Yn ddiweddarach, ffurfiodd leiniau Cwmni Rheilffyrdd lled Cul Gogledd Cymru, y NWNGR ran ogleddol Rheilffordd yr Ucheldir.
Ym 1902 cymerodd y PBSSR fusnes Cwmni Rheilffordd Tram Porthmadog, Croesor a Beddgelert drosodd gyda’r nod o’i ymestyn i chwarel lechi De Eryri ym Mwlch Aberglaslyn, Nant Gwynant, ond ni chwblhawyd y lein. Collodd y PBSSR ei phwerau cyfreithiol ym 1913 a throsglwyddwyd eu gwaith i gwmni NWNGR ym 1914.
Erbyn 1921, roedd y NWNGR, y PBSSR, Rheilffordd yr Wyddfa a Rheilffordd Ffestiniog dan gydberchnogaeth ac yn cael eu rheoli gan gwmni’r North Wales Power & Traction Company Ltd.
Ym 1922 fe wnaed gorchymyn i sefydlu Cwmni Rheilffordd Ucheldir Cymru (Welsh Highland Light Railway Company).
Ni fu’n llwyddiant. Aeth y perchnogion ati i agor y caffi bwffe cyntaf ar lein rheilffordd gul a pheintio’u cerbydau mewn lliwiau llachar er mwyn denu ymwelwyr. Ond bu’r fenter hon yn ofer a rhedodd y trenau olaf i deithwyr ar 5 Medi 1936.
Adferwyd y rheilffordd yn ystod diwedd y 1990au / dechrau’r 2000au ac mae’n cynnwys estyniad i Gaernarfon.

http://www.festrail.co.uk/

http://colonelstephenssociety.co.uk/

 

y llwybr
Adrannau

Adran 1: Bangor i Fethesda

Adran 2: Bethesda i Lanberis

Adran 3: Llanberis i Waunfawr

Adran 4: Waunfawr i Nantlle

Adran 5: Nantlle i Rhyd Ddu

Adran 6: Rhyd Ddu i Feddgelert

Adran 7: Beddgelert i Croesor

Adran 8: Croesor i Danygrisiau

Adran 9: Tanygrisiau i Lan Ffestiniog

Adran 10: Llan Ffestiniog i Benmachno

Adran 11: Penmachno i Fetws y Coed

Adran 12: Betws y Coed i Capel Curig

Adran 13: Capel Curig i Fethesda

0
    0
    Your Cart
    Your cart is emptyReturn to Shop