Am y rhan fwyaf o`r daith, mae Llwybr Llechi Eryri’n dilyn llwybr Taith y Pererin Gogledd Cymru. Gan adael Waunfawr ar hyd lôn ger gorsaf Rheilffordd Ucheldir Eryri, mae’r llwybr yn dilyn lôn wledig cyn fforchio i fyny’r llechwedd coediog serth. Maes o law, ceir gweundir a gwelir golygfeydd o Mynydd Mawr i’r chwith a Chrib Nantlle ddanheddog o’ch blaen. Yn fuan, cyrhaeddir gweithfeydd llechi helaeth Dyffryn Nantlle ac mae’r llwybr yn mynd heibio i domennydd uchel a cheudyllau chwarel anferth cyn cyrraedd pentref Nantlle.
Dilynwch y brif ffordd A4085 Rufeinig drwy Waunfawr cyn belled â gorsaf Rheilffordd Ucheldir Eryri. Yma, rydych yn dilyn y lôn gul ag arwydd i bentref Rhosgadfan. Gan ddilyn Llwybr Taith y Pererinion Gogledd Cymru o hyd, dilynwch lwybr garw i fyny’r llethr coediog, dros gamfeydd ac ewch heibio i fythynnod sy`n wag ers blynyddoedd maith at y gweundir agored.
Wedi i chi gerdded llwybr Taith y Pererin Gogledd Cymru am gryn bellter, ewch ar fforch rhwng gweithfeydd chwarel ac i lawr at bentref Y Fron. Wedi i chi groesi caeau, cerddwch ar hyd olion llwybr tramffordd i gychwyn, yna ar hyd cae rhedynog, lle gall y llwybr fod yn anodd ei weld.
Mae angen i chi gymryd gofal wrth i chi gerdded lawr y llechwedd rhwng y gweithfeydd chwarel trawiadol, y tipiau a’r melinau llechi segur. O’r diwedd, dewch at drac llydan sy’n eich arwain i bentref Nantlle.
Mae un o gerddwyr y Llwybr, Andrew Webb, wedi creu nifer o baentiadau tirwedd wrth iddo gerdded. Mae copïau ar gael mewn amrywiaeth o fformatau: cardiau post, cardiau cyfarch a phrintiau o wahanol feintiau. Anfonwch e-bost atom yn info@snowdoniaslatetrail.org a byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad ag ef. Bydd yr holl elw o werthu’r cardiau a’r printiau yn mynd tuag at gynnal a datblygu Llwybr Llechi Eryri.

Crib Nantlle
Dadlwythiadau
Teithiau gylchol ar hyd y Llwybr
Ar hyd y ffordd
Cwmni’r Welsh Highland Railway Limited

Sefydlwyd Rheilffordd Ucheldir Cymru ym 1922 ar ôl uno Cwmni Rheilffordd lled Cul Gogledd Cymru (NWNGR) a Chwmni Rheilffordd Porthmadog, Beddgelert a De Eryri (PBSSR, olynydd i Gwmni Tramffordd Croesor, Porthmadog a Beddgelert ) â’i gilydd.
Yn wreiddiol roedd Cwmni Rheilffyrdd lled Cul Gogledd Cymru ond wedi adeiladu lein o gyffordd gyda rheilffordd traciau lled safonol y London & North Western yn Ninas cyn belled â De Eryri (Rhyd Ddu) gyda changen i wasanaethu chwareli uwchben Bryngwyn.
Fe agorwyd y ddwy lein mewn dau gam, ym 1877 a 1881. Yna, aeth lein y Bryngwyn i ddwylo’r gweinyddwyr a lein De Eryri ym 1916 i’w dilyn. Fe gaewyd lein y Bryngwyn i deithwyr ym 1913 ond cludwyd nwyddau arni tan 1922. Yn ddiweddarach, ffurfiodd leiniau Cwmni Rheilffyrdd lled Cul Gogledd Cymru, y NWNGR ran ogleddol Rheilffordd yr Ucheldir.
Ym 1902 cymerodd y PBSSR fusnes Cwmni Rheilffordd Tram Porthmadog, Croesor a Beddgelert drosodd gyda’r nod o’i ymestyn i chwarel lechi De Eryri ym Mwlch Aberglaslyn, Nant Gwynant, ond ni chwblhawyd y lein. Collodd y PBSSR ei phwerau cyfreithiol ym 1913 a throsglwyddwyd eu gwaith i gwmni NWNGR ym 1914.
Erbyn 1921, roedd y NWNGR, y PBSSR, Rheilffordd yr Wyddfa a Rheilffordd Ffestiniog dan gydberchnogaeth ac yn cael ei rheoli gan gwmni’r North Wales Power & Traction Company Ltd.
Ym 1922 fe wnaed gorchymyn i sefydlu Cwmni Rheilffordd Ucheldir Cymru (Welsh Highland Light Railway Company).
Ni fu’n llwyddiant. Aeth y perchnogion ati i agor y caffi bwffe cyntaf ar lein rheilffordd gul a pheintio’u cerbydau mewn lliwiau llachar er mwyn denu ymwelwyr. Ond bu’r fenter hon yn ofer a rhedodd y trenau olaf i deithwyr ar 5 Medi 1936.
Adferwyd y rheilffordd yn ystod diwedd y 1990au / dechrau’r 2000au ac mae’n cynnwys estyniad i Gaernarfon.
http://colonelstephenssociety.co.uk/
Y Fron
Roedd y Fron yn enwog am ei llechi ers talwm. Mae poblogaeth fywiog yn byw yma. Nod y gymuned leol yw adnewyddu hen adeilad Ysgol Gynradd Bron y Foel a chreu canolfan sy’n cynnwys siop, caffi, darpariaeth gwasanaethau iechyd a lles a byncws moethus sy’n berthnasol i dwristiaeth ar raddfa fach Llwybr Llechi Eryri.
Wrth ymyl yr hen ysgol mae Tŷ’r Ysgol, ac ar ei wal mae plac wedi’i gysegru er cof am y rhai o’r pentref a’r chwarel a gollodd eu bywydau yn y Rhyfeloedd Byd. Dyluniwyd y placiau gan artist lleol a’u creu gan Gwaith Llechi Inigo Jones.
www.fron.org.uk

Dyffryn Nantlle
Datblygodd pentrefi dyffryn Nantlle ddiwedd y 18fed ganrif i wasanaethu’r diwydiant llechi lleol. Ar un adeg, roedd tua 40 chwarel yn nyffryn Nantlle.
O ardaloedd amaethyddol Môn ac Arfon y daeth y chwarelwyr yn bennaf a dyna pam y bu’r diwydiant mor Gymreig ar hyd yr amser. Tua 80% o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf erbyn hyn.
Peintiwyd y darlun hwn o’r ‘Wyddfa o Lyn Nantlle’ [1765] gan Richard Wilson.
http://www.nantlle.com/local-history.htm


Adran 1: Bangor i Fethesda
Adran 2: Bethesda i Lanberis
Adran 3: Llanberis i Waunfawr
Adran 4: Waunfawr i Nantlle
Adran 5: Nantlle i Rhyd Ddu
Adran 6: Rhyd Ddu i Feddgelert
Adran 7: Beddgelert i Croesor
Adran 8: Croesor i Danygrisiau
Adran 9: Tanygrisiau i Lan Ffestiniog
Adran 10: Llan Ffestiniog i Benmachno
Adran 11: Penmachno i Fetws y Coed
Adran 12: Betws y Coed i Capel Curig

