e-bost

info@snowdoniaslatetrail.org

English

y llwybr
Adran 3: Llanberis i Waunfawr
Pellter: 6.1km, 3.8milltir Esgyniad: 310m, 1000tr Amser: 2 – 3awr

Mae’r rhan i Waunfawr yn gadael Llanberis drwy ei strydoedd cul cyn dringo ochr y dyffryn i groesi uwchben Llanberis. Aiff traciau coedwig da â chi at lwybr troed i lawr i Waunfawr a rhan ddewisol llwybr Taith y Pererin Gogledd Cymru.

Gadewch Stryd Fawr ar hyd Ffordd Tŷ Du, Llanberis a cherddwch ar lôn gul serth wrth dilyn llwybr Taith y Pererin i gyraedd trac yn rhedeg uwchben y dyffryn.

Dilynwch ffordd goedwigaeth lydan ac ewch drwy weithfeydd chwarelu cyn ymuno â lôn gul. Cerddwch ar hyd y lôn tan i chi weld arwyddion llwybr dewisol Taith Y Pererinion Gogledd Cymru. Dilynwch yr arwyddion hyn i Waunfawr lle mae gan Antur Waunfawr caffu – Blas y Waun.  Mae lluniaeth a gwersylla ar gael yn Nhafarn Snowdonia Parc.

Mae un o gerddwyr y Llwybr, Andrew Webb, wedi creu nifer o baentiadau tirwedd wrth iddo gerdded. Mae copïau ar gael mewn amrywiaeth o fformatau: cardiau post, cardiau cyfarch a phrintiau o wahanol feintiau. Anfonwch e-bost atom yn info@snowdoniaslatetrail.org a byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad ag ef. Bydd yr holl elw o werthu’r cardiau a’r printiau yn mynd tuag at gynnal a datblygu Llwybr Llechi Eryri.

Chwarel Dinorwig

 

Dadlwythiadau

Map

Note: Bullet point no 1 on page 40 of the earliest edition of the guidebook has an error. At the top, turn right then left to ascend….. This has been corrected in subsequent editions.

Ar hyd y ffordd

Parc Glynrhonwy

Gweithiwyd y chwareli hyn o’r 1700au hyd at 1930. Ym 1939, prynodd y Weinyddiaeth Awyr y Chwarel Isaf er mwyn storio dros 18,000 tunnell o arfau rhyfel a ffrwydron mewn adeilad deulawr. Yn Ionawr 1942, fe ddisgynnodd rhan sylweddol o’r adeilad a chladdwyd 14,000 tunnell o arfau rhyfel a 27 wagen a oedd wrthi’n dadlwytho. Wedi’r rhyfel, symudodd Ysgol Ffrwydron Awyrlu Brenhinol i’r safle. Roedd cwricwlwm yr ysgol yn cynnwys gwaith tanio ffrwydron felly defnyddiwyd safle’r chwarel at ddibenion hyfforddi. Parhaodd hyn tan 1961. Dechreuodd y gwaith o glirio ffrwydron oddi ar y safle ym 1969, a chymerodd y dasg bron i chwe mlynedd.

 

Taith y Pererin Gogledd Cymru

Llwybr tua 130 milltir yw Taith y Pererin Gogledd Cymru sy’n cychwyn yn Abaty Basingwerk (Dinas Basing). Roedd yr abaty’n gweithredu fel ysbyty i bererinion ar eu taith i Ffynnon Groyw yn ystod y Canol Oesoedd.

Mae’r llwybr yn dathlu treftadaeth y seintiau Celtaidd hynny y llithrodd eu straeon i ebargofiant ond adleisir y coffa amdanynt mewn eglwysi hynafol â ffynhonnau sanctaidd ar hyd y ffordd.

Fel yn y gorffennol, mae eglwysi bychain o garreg sy’n swatio ar y llethrau’n cynnig cysgod a gorffwys i gerddwyr.
Mae llawer i’w weld yma, gan gynnwys croes garreg 12 troedfedd Maen Achwyfan sy’n 1,000 o flynyddoedd oed. Saif yn enigmatig, arunig mewn cae. Mae arni gerfiadau a phatrymau Celtaidd a Llychlynnaidd. Mae’r llwybr yn mynd heibio i gylchoedd cerrig sydd wedi goroesi’n dda uwchben dyffryn Conwy.
Uchafbwynt y daith yw croesi at Ynys Enlli mewn cwch agored.

 

http://www.pilgrims-way-north-wales.org/

Rheilffordd yr Wyddfa

Cynigiwyd cynlluniau ar gyfer rheilffordd i fyny’r Wyddfa o Lanberis yn gyntaf gan Syr Richard Moon, Cadeirydd y London & North Western Railway, ar ôl i lein o Fangor i Lanberis gael ei chwblhau ym 1869, a chafwyd gwrthwynebiad chwyrn gan y tirfeddiannwr George William Duff Assheton -Smith. Fodd bynnag, arweiniodd cynlluniau yn 1877 i hyrwyddo rheilffordd o Borthmadog i gopa’r Wyddfa, ac agor rheilffordd gul i Ryd Ddu ym 1881, at golled sylweddol mewn masnach i Lanberis.

Ysgogodd hyn Assheton-Smith i newid ei feddwl; cafodd Syr Richard ei ffordd, ffurfiwyd The Snowdon Mountain Tramroad and Hotels Company Ltd., a dechreuwyd un o gampau peirianneg mawr y byd  ym 1894.

Adeiladodd y reilffordd gan 150 o ddynion gyda chaibau, rhawiau a deinameit ddwy draphont, wrth cerfio toriad 100-metr o graig solet, adeiladu sawl pont a gosod bron i wyth cilometr o drac i fyny graddiant un mewn saith i ben y mynydd – i gyd yn 14 mis.

Roedd system reilffordd rac-a-piniwn (cog) patent, a berffeithiwyd gan Dr. Roman Abt, yn gweithio’n ddibynadwy yn Alpau’r Swistir ac ar reilffordd Manitou & Pike’s Peak yn America. Nid oedd unrhyw gystadleuwyr tebygol eraill, a system Abt yw’r un sy’n dal i weithio heddiw. Felly beth am brynu’r locomotifau o’r un ffynhonnell? O’r locos stêm gwreiddiol a adeiladwyd yn y Swistir, mae pedwar yn dal i gludo i fyny ac i lawr y mynydd heddiw. Cyfrifwyd bod locomotif Rhif 2, Enid, wedi teithio am bellter o 3,075,200 cilometr, sy’n hafal i bedair taith i’r lleuad ac yn ôl, ers mynd i wasanaeth ym 1896.

www.snowdonrailway.co.uk/history-of-snowdon-mountain-railway

 

y llwybr
Adrannau

Adran 1: Bangor i Fethesda

Adran 2: Bethesda i Lanberis

Adran 3: Llanberis i Waunfawr

Adran 4: Waunfawr i Nantlle

Adran 5: Nantlle i Rhyd Ddu

Adran 6: Rhyd Ddu i Feddgelert

Adran 7: Beddgelert i Croesor

Adran 8: Croesor i Danygrisiau

Adran 9: Tanygrisiau i Lan Ffestiniog

Adran 10: Llan Ffestiniog i Benmachno

Adran 11: Penmachno i Fetws y Coed

Adran 12: Betws y Coed i Capel Curig

Adran 13: Capel Curig i Fethesda

0
0
Your Cart
Your cart is emptyReturn to Shop