Mae’r cerdded anodd wedi gorffen a gallwch fwynhau llwybr sydd bron yn llwyr wastad i ben dyffryn siâp U trawiadol Nant Ffrancon. Ewch yn eich blaen ar hyd ffordd lai am rai milltiroedd i lawr y dyffryn hardd hwn, cyn ymuno â llwybr beicio Lôn Las Ogwen. Cewch eich arwain heibio i dipiau lechi glas rhaeadrol Chwarel y Penrhyn cyn i ddarn byr o’r llwybr beicio fynd â chi yn ôl i Fethesda. Dyna chi wedi cwblhau’r daith. Llongyfarchiadau.
Wedi i chi gyrraedd Capel Curig, dilynwch y lôn heibio siop ddringo Joe Brown a cherddwch y llwybr llydan ar hyd ochr ddeheuol y dyffryn llydan at yr A5. Wedi’ i chi gyrraedd yr A5, croeswch hi a dilynwch lwybr troed yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ochr orllewinol Llyn Ogwen. Saif Pen yr Ole Wen ar y dde i chi a Thryfan ar y chwith.
Ym mhen gorllewinol Llyn Ogwen, croeswch yr afon at y ciosg bwyd a’r toiledau a dilynwch hen ffordd y goets fawr ar hyd ochr orllewinol Nant Ffrancon, dros bont yr A5, uwchben yr afon. Mae pont pynfarch hynafol o dan y bont. Ym mhen draw’r ffordd, ewch yn syth ymlaen at lwybr beicio Lôn Las Ogwen. Pan ddowch at y bont sy’n croesi’r afon cyn y maes carafanau, edrychwch ar furiau`r canllawiau ac arnynt gerfiadau hynafol chwarelwyr, ynghyd â rhai nad ydynt mor hynafol.
Ewch heibio i’r ysbyty chwarel adfeiliedig a sefydliad y chwarelwyr sy’n fan preswyl erbyn hyn, a dilynwch yr arwydd i’r dde sy’n eich arwain oddi ar y llwybr beicio. Croeswch y ffordd, dilynwch y trac a chroeswch yr Ogwen, i Fethesda. Gallwch ddal bws yn ôl i Fangor at eich car neu i ddal y trên adref.
Mae un o gerddwyr y Llwybr, Andrew Webb, wedi creu nifer o baentiadau tirwedd wrth iddo gerdded. Mae copïau ar gael mewn amrywiaeth o fformatau: cardiau post, cardiau cyfarch a phrintiau o wahanol feintiau. Anfonwch e-bost atom yn info@snowdoniaslatetrail.org a byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad ag ef. Bydd yr holl elw o werthu’r cardiau a’r printiau yn mynd tuag at gynnal a datblygu Llwybr Llechi Eryri.

Nant Ffrancon
Dadlwythiadau
Ar hyd y ffordd
Llyn Ogwen
Mae Llyn Ogwen yn lyn bas iawn sy’n cyrraedd dyfnder ond ychydig dros 3 metr. Er mai llyn naturiol yw Ogwen, adeiladwyd argae ar ddechrau’r 20fed ganrif i godi lefel y llyn er mwyn darparu dŵr ar gyfer Chwarel y Penrhyn gerllaw.
Dywedir bod Bedwyr wedi taflu Caledfwlch (cleddyf Arthur) i Lyn Ogwen, lle’i daliwyd gan Forwyn y Llyn wedi Brwydr Olaf y Brenin Arthur yng Nghamlan.

Tryfan
Dywedir mai Tryfan yw man gorffwys olaf Bedwyr (gweler yr wybodaeth am Lyn Ogwen). Ceir dau faen talsyth Adda ac Efa ar y copa ac mae modd eu gweld o’r ffordd islaw. Yr her yw neidio o un maen i’r llall, ac osgoi’r bwlch rhyngddynt.
Mae modd gweld Carreg Fagnel hefyd, sy’n ymwthio allan o Gefnen y Gogledd.
Yn olaf, os edrychwch o’r ochr ar y Gefnen y Gogledd sydd agosaf at Lyn Ogwen, mae’r proffil yn debyg i wyneb y Frenhines Fictoria.

Nant Ffrancon
Mae Nant Ffrancon yn enghraifft wych o ddyffryn rhewlifol siap-U. Ym mhen draw’r dyffryn mae’r A5 yn croesi’r Ogwen. Oedwch i edrych dan y bont yma ar yr hen bont pynfarch oddi tani.

Llwybr Beicio Lôn Las Ogwen
Mae’r llwybr beicio hynod ddeniadol hwn yn eich arwain 11 milltir o’r arfordir, drwy olygfeydd amrywiol i galon un o dirweddau mwyaf dramatig Eryri. Am fwy o wybodaeth ewch at
http://www.cyclingnorthwales.co.uk/pages/lon_ogwen.htm

Bethesda
Bethesda yw’r ganolfan gwareiddiad gyntaf, ag olaf, o bwys ar y daith hon, gyda siopau, bwytai a thafarndai. Ymwelwch â Chaffi Coed y Brenin am fyrbryd a chefnogwch y fenter gymdeithasol hon. Bu’r caffi’n rhan o gwmni Agoriad sy’n darparu hyfforddiant a chymorth gydag anghenion gwaith pobl â chanddynt anawsterau dysgu neu iechyd meddwl. Mae ganddo enw da ac mae’n ffefryn ymhlith trigolion Bethesda am ei wasanaeth cyfeillgar a’i fwyd da.
Adran 1: Bangor i Fethesda
Adran 2: Bethesda i Lanberis
Adran 3: Llanberis i Waunfawr
Adran 4: Waunfawr i Nantlle
Adran 5: Nantlle i Rhyd Ddu
Adran 6: Rhyd Ddu i Feddgelert
Adran 7: Beddgelert i Croesor
Adran 8: Croesor i Danygrisiau
Adran 9: Tanygrisiau i Lan Ffestiniog
Adran 10: Llan Ffestiniog i Benmachno
Adran 11: Penmachno i Fetws y Coed
Adran 12: Betws y Coed i Capel Curig

