e-bost

info@snowdoniaslatetrail.org

English

y llwybr
Adran 12: Betws y Coed i Gapel Curig
Pellter: 9.5km, 5.9milltir Esgyniad: 420m, 1350tr Amser: 3 – 4awr
Dyma ran hyfryd a diddorol o’r Llwybr. Wedi gadael Betws y Coed, mae’r llwybr sydd wedi ei gynllunio’n dda yn eich arwain ar hyd glan yr afon,\ ac yn mynd heibio i’r Rhaeadr Ewynnol enwog cyn cyrraedd y ffordd ger y Tŷ Hyll. Bydd llwybr serth yn eich arwain unwaith eto i Goedwig Gwydir a llwybrau coetir da. Wedi i chi adael y goedwig, fe egyr golygfeydd anhygoel o’r Wyddfa, Moel Siabod, y Carneddau a’r Glyderau o’ch blaen wrth i chi ddisgyn i Gapel Curig.

Dilynwch y llwybr sy’n hawdd mynd ato ar hyd glan ogleddol yr afon, a gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar Gerrig Magnelau yn union dros y bont ger y toiledau. Wrth Bont y Mwynwyr, trowch i’r dde i fyny’r allt drwy’r coed ac yna throwch i’r chwith ar hyd y lôn gul. Cyn bo hir, fe welwch arwydd yn eich cyfeirio at y Rhaeadr Ewynnol lle mae llwybr cul ond diogel yn crafangu gafael yn y clogwyni uwchben y cenllif chwyrlïog. Mwynhewch y golygfeydd hyfryd o’r rhaeadrau cyn dal i fynd ar hyd glan yr afon.

Wrth y Tŷ Hyll, dringwch y lôn serth cyn troi i’r chwith i’r goedwig. Dilynwch y llwybr a farciwyd tan i chi gyrraedd gweundir agored. Cerddwch ar hyd y llwybr sydd wedi’i gynllunio’n dda ac edrychwch ar yr olygfa agored hyfryd o’r mynyddoedd o’ch blaen. Cyn bo hir byddwch yn cyrraedd Capel Curig.

Gwybodaeth am y llefydd ar hyd rhan hon y daith. Nodwch nad yw Grŵp Gweithred Cymuned Cwm yn gyfrifol am wefannau mudiadau eraill.

Ar hyd y ffordd

Cerrig Magnelau

Clogfeini yw’r rhain. Naddwyd tyllau a cherfiwyd sianelau ynddynt er mwyn dal powdwr gwn. Câi cyfres o ffrwydriadau bach eu creu wrth eu tanio. Roedd y traddodiad Fictoraidd hwn o ddathlu’r gwyliau yn unigryw i ardaloedd llechi Eryri.
Mae’r clogfeini yma ger yr afon ym Mhont y Pair, Betws y Coed.
Gwelir enghraifft dda arall yn chwarel Rhiwbach, Cwm Penmachno.

Pont y Mwynwyr

Pont y Mwynwyr
Mae Pont y Mwynwyr ar oleddf serth dros y Llugwy. Codwyd y bont ddiddorol hon yn wreiddiol i hwyluso’r daith at y mwyngloddiau llechi, plwm a gweithfeydd mwynau eraill niferus, bob ochr i’r afon.

Rhaeadr Ewynnol

Rhaeadr Ewynnol
Mae Rhaeadr Ewynnol yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Cam gyfieithwyd yr enw gwreiddiol (Foaming Falls) yn Swallow Falls.

Swallow Falls

Y Tŷ Hyll

Tŷ Unnos oedd y Tŷ Hyll. Yn ystod y 17eg a’r 18fed ganrif, y traddodiad oedd, pe bai rhywun yn gallu adeiladu’r pedair wal a simdde a hwnnw’n mygu ymhen 24 awr, fe gai’r adeiladwr y tŷ. Yna, byddai’r adeiladwr yn taflu bwyell cyn belled ag y medrai er mwyn hawlio’r tir o fewn y terfyn

Bellach mae’r adeilad yn eiddo i Gymdeithas Eryri.

 

http://www.theuglyhouse.co.uk
http://snowdonia-society.org.uk

Capel Curig

Enwyd Capel Curig ar ôl Curig, sant Celtaidd o’r chweched ganrif a chafodd ei gysegru yn nawddsant eglwys y pentref. Ond yn ystod cyfnod y Normaniaid ail gysegrwyd yr eglwys wreiddiol i Santes Julitta. Saif mewn mynwent hynafol ger pont yr afon ar ffordd Llanberis. Ganrifoedd yn ddiweddarach, mwy na thebyg pan adeiladwyd yr eglwys hynafol bresennol, Lladineiddiwyd yr enw ar ôl enw merthyr o blentyn o’r 4edd ganrif sef Cyricus. Enw ei fam oedd Julitta. Fel arfer fe’u henwir yn Sant Quiricus a Santes Julietta.
Cofnodwyd yr enwau Capel Kiryg a Capel Kerig ym 1536 a 1578. Cymdeithas Cyfeillion Santes Julitta sydd wedi adfer yr eglwys.

https://en.wikipedia.org/wiki/Capel_Curig
http://www.capelcurigcommunitycentre.co.uk/capel.html

y llwybr
Adrannau

Adran 1: Bangor i Fethesda

Adran 2: Bethesda i Lanberis

Adran 3: Llanberis i Waunfawr

Adran 4: Waunfawr i Nantlle

Adran 5: Nantlle i Rhyd Ddu

Adran 6: Rhyd Ddu i Feddgelert

Adran 7: Beddgelert i Croesor

Adran 8: Croesor i Danygrisiau

Adran 9: Tanygrisiau i Lan Ffestiniog

Adran 10: Llan Ffestiniog i Benmachno

Adran 11: Penmachno i Fetws y Coed

Adran 12: Betws y Coed i Capel Curig

Adran 13: Capel Curig i Fethesda

0
    0
    Your Cart
    Your cart is emptyReturn to Shop