Wedi’r rhan olaf, dyma ran hawdd o’r llwybr. Cerddwch ar hyd llwybrau coedwigaeth llydan sy’n eich arwain at Bont Rufeinig. Yna, dilynwch y ffordd i Gaffi Rhaeadr y Graig Lwyd. Aiff llwybr braf â chi heibio i Ffos Anoddun (Fairy Glen). Cymerwch y ffordd lai a thaith fer drwy’r coetir cyn i chi gyrraedd prysurdeb Betws y Coed.
Byddwch yn dringo ychydig ar hyd lôn o Benmachno. Ewch yn eich blaen ar lwybrau coedwigaeth uwchben y Machno. Wedi i chi gyrraedd y ffordd, trowch i’r dde i Felin Penmachno. Edrychwch i’r chwith am y Bont Rufeinig sy’n croesi’r afon, a throwch i’r chwith i Gaffi Rhaeadr y Graig Lwyd (Conwy Falls). Cerddwch y llwbr goddefol newydd o`r parc ceir a, wedyn, dilynwch y llwybr da drwy’r goedwig, uwchben y Conwy, heibio i Ffos Anoddun ac at yr A470. Croeswch y Conwy a throwch i’r dde i ffordd lai tuag at Fetws y Coed.
Edrychwch i’r dde am arwydd y llwybr troed sy’n mynd â chi ar dir Gwesty’r Waterloo, ger Pont Waterloo. Trowch i’r chwith ar hyd y ffordd fawr i ganol y pentref.
Gwybodaeth am y llefydd ar hyd rhan hon y daith. Nodwch nad yw Grŵp Gweithred Cymuned Cwm yn gyfrifol am wefannau mudiadau eraill.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ar fin ymgymryd â gweithrediadau coedwig ym mloc coedwig Fedw Deg yng Nghoedwig Gwydir.
Mae rhan o’r llwybr cludo yn ymyl/ar y Llwybr wrth iddo adael y goedwig uwchben Penmachno a chyrraedd y ffordd ger y Bont Rufeinig, cyn Rhaeadr Conwy.
Bwriedir i’r gwaith ddechrau o 1 Mehefin 2023 a bydd yn para am tua 4 mis. Bydd yr contractwr yn gosod arwyddion Iechyd a Diogelwch; cymerwch sylw o’r arwyddion hyn ac ufuddhewch i bob rhybudd. Ni fydd unrhyw bren yn cael ei gludo rhwng yr oriau 00:00 i 07:00 a 18:00 a 00:00, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ni fydd unrhyw bren yn cael ei gludo ar benwythnosau (dydd Sadwrn a dydd Sul) a gwyliau cyhoeddus.
Dadlwythiadau
Ar hyd y ffordd
Melin Penmachno
Ar un adeg, gyrrid gwyddiau’r felin gan ddŵr Afon Machno ond fe’u diweddarwyd i redeg ar drydan. Mae’r adeilad yn segur ers nifer o flynyddoedd ond mae’n cynnwys offer ac arteffactau o hyd wedi‘u rhewi mewn amser.
Y Bont Rufeinig
Nid yw’r bont Rufeinig yn Rhufeinig o gwbl, ond mae’r bont bynfarch hynafol hon dros y Machno’n werth ei gweld. Mae’n ddarluniadwy iawn ac mae mwsogl a gwair yn ei gorchuddio. Saif o dan y bont bresennol y ffordd. Pwy a ŵyr pam y gelwir hi’n bont Rufeinig!
Caffi Rhaeadr y Graig Lwyd
Cewch gymryd seibiant haeddiannol yn y caffi. Syr Clough Williams Ellis, pensaer Portmeirion sydd wedi ei gynllunio. Mae wedi ei beintio yn lliwiau nodweddiadol ystâd Brondanw a welsom yn nyffryn Croesor.
Wedi glaw trwm mae’n werth ymweld â Rhaeadr y Graig Lwyd a’i ysgol Fictoraidd ar gyfer pysgod. Bellach mae sewin yn nofio i gyrraedd rhannau uchaf y Gonwy drwy dwnnel modern ar gyfer pysgod.

Conwy Falls café
Ffos Anoddun (Fairy Glen)
Mae Ffos Anoddyn yn atyniad mewn dwylo preifat. Ysgrifennodd y bardd, Wuhelmina Stitch(1888-1936) am Ffos Anoddun gan ddweud ei bod hi’n, “waits and waits, to see the fairy men”. Mae rhan-dâl i’w dalu yn y fferm gerllaw.
http://www.betws-y-coed.co.uk/feature_pages/item/1222/Fairy_Glen_Betws_y_Coed.html
Pont Waterloo
Thomas Telford adeiladodd Bont Waterloo sy’n adeilad cofrestredig Gradd I o haearn bwrw. Mae arysgrifen ar y bwa’n cofnodi iddi gael ei hadeiladu ym mlwyddyn Brwydr Waterloo. Er i’r gwaith adeiladau gychwyn ym 1815, ni chafodd ei chwblhau tan y flwyddyn ganlynol.

Adran 1: Bangor i Fethesda

Adran 2: Bethesda i Lanberis

Adran 3: Llanberis i Waunfawr

Adran 4: Waunfawr i Nantlle

Adran 5: Nantlle i Rhyd Ddu

Adran 6: Rhyd Ddu i Feddgelert

Adran 7: Beddgelert i Croesor

Adran 8: Croesor i Danygrisiau

Adran 9: Tanygrisiau i Lan Ffestiniog

Adran 10: Llan Ffestiniog i Benmachno

Adran 11: Penmachno i Fetws y Coed

Adran 12: Betws y Coed i Capel Curig
