Nodyn: Mae Lôn Las Ogwen ar gau 9/10/23 tan 15/1/24 tra bod y Cyngor yn adnewyddu dwy bont droed. Awgrymwn ichi gychwyn y Llwybr yn Llandegai.
Gan ddechrau ym Mhorth Penrhyn, dilynwch Lon Las Ogwen ar hyd hen Reilffordd Chwarel y Penrhyn, sy’n arwain ochr yn ochr â’r muriau uchel sy’n amgylchynu Castell y Penrhyn, cyn cerdded ar hyd Llwybr y Gogledd heibio Melin Cochwillan i Fferm Cochwillan. Ar ôl olrhain taith yr Ogwen i Bont yr Halfway, dilynwch lwybrau caeau, traciau a lonydd i Eglwys Llanllechid.
O Lanllechid, dilynwch ffyrdd llai cyn croesi’r mynydd-dir agored islaw Moel Faban. Gyda golygfeydd agored y Carneddau a’r Glyderau o’ch blaen, a thomenydd helaeth glas gwastraff llechi Chwarel Penrhyn, cerddwch ar hyd y llwybr i Hen Barc ac ymlaen ar hyd strydoedd troellog Bethesda.
Trosolwg o’r adran gan Vicky Anne Jones (yn Saesneg)
Dadlwythiadau
Teithiau gylchol ar hyd y Llwybr
Sylwer: Mae gwall ar bwynt bwled rhif 2 ar dudalen 32 yn yr hen ganllaw. Pan gyrhaeddwch yr A55, trowch i’r chwith, gan gadw’r A55 ar eich DDE.
Ar hyd y ffordd
Porth Penrhyn
Yn ystod dyddiau cynnar chwarela llechi, cludwyd llechi mewn llongau o Aber Ogwen, moryd yr Ogwen, rai milltiroedd i’r dwyrain o Fangor. Roedd y foryd yn fas a gallai’r cychod llai ond cario llwyth o ryw chwe deg tunnell. Daeth y cyfyngiad hwn i ben ym 1790 pan adeiladodd yr Arglwydd Penrhyn Borth Penrhyn ar foryd Afon Cegin. Roedd Chwarel y Penrhyn yn gweithredu ei llynges o longau cario llechi ei hun.
Er i waith llai yn y porth gynhyrchu 133,000 o lechi ysgrifennu ysgol yn ôl ym 1778, sefydlwyd ffatri ym 1798 i frasgynhyrchu llechi o’r fath.
Mae’r porthladd yn gartref i adeilad cofrestredig anarferol iawn. Mae deg sedd yn y bloc toiledau siâp cylch yma.
Llwybr Beicio Lôn Las Ogwen
Mae’r llwybr beicio hynod ddeniadol hwn yn eich arwain 11 milltir o’r arfordir, drwy olygfeydd amrywiol i galon un o dirweddau mwyaf dramatig Eryri. Am fwy o wybodaeth ewch at
http://www.cyclingnorthwales.co.uk/pages/lon_ogwen.htm
Rheilffordd Chwarel y Penrhyn
Agorwyd Rheilffordd Chwarel y Penrhyn gyntaf ym 1798 fel Tramffordd Llandegai. Daeth yn Rheilffordd y Penrhyn ym 1801 er iddi gymryd llwybr gwahanol.
Roedd y rheilffordd newydd tua chwe milltir o hyd a defnyddiodd led 1 droedfedd 10.75 modfedd. Fe’i hadeiladwyd i gario llechi o chwareli llechi yr Arglwydd Penrhyn ym Methesda i Borth Penrhyn.
Roedd yn un o`r rheilffyrdd lein fach hynaf yn y byd a chaeodd ym 1962. Symudwyd yr injanau oddi yno: mae Blanche a Linda bellach yn rhedeg ar Reilffordd Ffestiniog a gellir gweld Charles yng Nghastell Penrhyn.
Am fwy o wybodaeth ewch at
http://www.penrhynrailway.co.uk
Castell Penrhyn
Adeiladwyd Castell Penrhyn rhwng 1820 a 1833 ar gyfer George Hay Dawkins Pennant gan y pensaer enwog, Thomas Hopper.
Yn enwog am ei arddull anarferol, dewisodd Hopper beidio â dilyn ffasiwn y cyfnod am bensaernïaeth Gothig. Torrodd ei gŵys ei hun a dewis cynllun neo-Normanaidd. Golygai dull ymarferol Hopper iddo oruchwylio’r gwaith o gynllunio ac adeiladu dodrefn y castell hefyd oedd yn cael eu gwneud gan grefftwyr lleol.
Ym 1840, gyda’r castell wedi ei orffen, bu farw George Hay Dawkins Pennant. Ei ferch, Juliana etifeddodd Penrhyn. Yn ei thro, fe briododd hi Edward Gordon Douglas, a ddaeth yn ddiweddarach yn Arglwydd Penrhyn y 1af o Landegai.
Detholiad o
www.nationaltrust.org.uk/penrhyn-castle
Melin Cochwillan
Roedd y felin hon yn trin gwlân ar gyfer tecstilau ac yn defnyddio asid sylffwrig a lygrodd yr Ogwen a gwenwyno’r pysgod. Nid oedd hyn wrth fodd yr Arglwydd Penrhyn felly fe’i prynodd a’i thrawsnewid yn felin corn. Fe’i caewyd ym 1955 a daeth yn gartref i Mr Vernon Barker – saer coed talentog oedd yn gwneud dodrefn ac ef a adeiladodd olwyn y felin. Roedd hi mor union gytbwys fel y byddai’r gath yn medru ei throi â’i phawen.
Am fwy o wybodaeth, ewch at
http://www.felincochwillan.co.uk/history.php
Eglwys Llanllechid
Mae Eglwys Santes Llechid yn adeilad cofrestredig Graddfa II. Fe’i codwyd yn lle eglwys dipyn cynharach o’r 15fed ganrif. Mae’r adeilad yn dyddio o 1844.
Santes o Gymraes o’r 6ed ganrif oedd Santes Llechid. Fe’i ganwyd tua 556 AD yn Llydaw, yn ferch i Ithel Hael de Cornouaille a mam anhysbys. Symudodd ei theulu i Gymru, lle sefydlodd llawer o’i brodyr a chwiorydd eglwysi. Hi yw Nawddsant Llanllechid. Dyma lle’r adeiladodd eglwys a phriodolwyd ffynnon sanctaidd (sydd wedi diflannu bellach) iddi.
Mae yna chwedl sy’n cysylltu adeiladu’r Eglwys Santes Llechid wreiddiol â’r cofnod sy’n dilyn. Daw o ‘Welsh folk-lore: a collection of the folk-tales and legends of North Wales’ (1887) Elias Owen
There was a tradition extant in the parish of Llanllechid, near Bangor, Carnarvonshire, that it was intended to build a church in a field called Cae’r Capel, not far from Plasuchaf Farm, but it was found the next morning that the labours of the previous day had been destroyed, and that the materials had been transported in the night to the site of the present church. The workmen, however, carried them all back again, and resumed their labours at Cae’r Capel, but in vain, for the next day they found their work undone, and the wood, stones, etc., in the place where they had found them when their work was first tampered with. Seeing that it was useless fighting against a superior power, they desisted, and erected the building on the spot indicated by the destroyers of their labours.
http://www.mysteriousbritain.co.uk/wales/gwynedd/folklore/st-llechids-church-llanllechid.html
Deial haul llechi ym mynwent Eglwys Santes Llechid
Y Carneddau a’r Glyderau
Y Carneddau a’r Glyderau
Beth allwch chi ddweud am y gadwyn hon o fynyddoedd? Maen nhw’n hollol wych. Cerddwch y llwybr i gael profiad arbennig o fynyddoedd Eryri.
http://www.nationaltrust.org.uk/carneddau-and-glyderau
Chwarel y Penrhyn
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Chwarel y Penrhyn oedd chwarel lechi fwya’r byd; mae’r prif bwll bron yn filltir o hyd (1.6 km) a 1,200 troedfedd (370 medr) o ddyfnder. Roedd bron i 3,000 o chwarelwyr yn gweithio yn y chwarel. Penrhyn yw chwarel lechi fwyaf Prydain o hyd, ond bellach mae’r gweithlu’n agosach at 200.
Mae i’r chwarel le pwysig yn hanes Mudiad Llafur Prydain yn safle dwy streic hirfaith gan weithwyr oedd yn hawlio gwell tâl ac amodau gwaith.
Bu i’r streic gyntaf barhau am 11 mis ym 1896. Dechreuodd yr ail streic ym 1900 a pharhaodd am dair blynedd. Fe’i gelwir yn ” Streic Fawr y Penrhyn” a dyma oedd yr anghydfod hiraf yn hanes diwydiannol Prydain. O 1964 hyd at 2007 y perchennog a’r gweithredwr oedd cwmni Alfred McAlpine.
Yn 2007 prynodd Kevin Lagan (gŵr busnes o’r Iwerddon, perchennog a chadeirydd y Lagan Group) y chwarel. Mae’r chwarel (a ailenwyd yn Welsh Slate Ltd) hefyd yn cynnwys Chwareli’r Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog, Cwt Y Bugail a Phen Yr Orsedd.
www.en.wikipedia.org/wiki/Penrhyn_Quarry
Dyma gartref Zip World Velocity. Y wifren wib hon yw’r gyflymaf yn y byd a’r hiraf yn Ewrop. Mae’r antur hwn yn mynd â chi ar y Little Zipper er mwyn i chi fagu hyder cyn mynd ar eu tryciau coch enwog ar siwrnai i fyny’r chwarel . Yna, byddwch yn gwibio i lawr y Big Zipper dros lyn y chwarel, gan gyrraedd cyflymder ymhell dros 100mya yn aml.
Bethesda
Bethesda yw’r ganolfan gwareiddiad o bwys cyntaf ar y daith hon, gyda siopau, bwytai a thafarndai. Ymwelwch â Chaffi Coed y Brenin am fyrbryd a chefnogwch y fenter gymdeithasol hon. Bu’r caffi’n rhan o gwmni Agoriad sy’n darparu hyfforddiant a chymorth gydag anghenion gwaith pobl â chanddynt anawsterau dysgu neu iechyd meddwl. Mae ganddo enw da ac mae’n ffefryn ymhlith trigolion Bethesda am ei wasanaeth cyfeillgar a’i fwyd da.
http://www.cafficoed-y-brenin.org.uk/
www.wikipedia.org/wiki/Bethesda

Adran 1: Bangor i Fethesda

Adran 2: Bethesda i Lanberis

Adran 3: Llanberis i Waunfawr

Adran 4: Waunfawr i Nantlle

Adran 5: Nantlle i Rhyd Ddu

Adran 6: Rhyd Ddu i Feddgelert

Adran 7: Beddgelert i Croesor

Adran 8: Croesor i Danygrisiau

Adran 9: Tanygrisiau i Lan Ffestiniog

Adran 10: Llan Ffestiniog i Benmachno

Adran 11: Penmachno i Fetws y Coed

Adran 12: Betws y Coed i Capel Curig
